Pedwar wedi marw ar ôl i ddau hofrennydd daro yn erbyn ei gilydd yn Awstralia

02/01/2023
S4C

Mae pedwar o bobl wedi marw ar ôl i ddau hofrennydd daro yn erbyn ei gilydd ger parc morol yn nhalaith Queensland yn Awstralia.

Mae tri arall wedi’u hanafu’n ddifrifol.

Digwyddodd y gwrthdrawiad y tu allan i Sea World ar yr Arfordir am tua 14:00 amser lleol. 

Dywedodd yr Arolygydd Dros Dro, Gary Worrell fod gwybodaeth gychwynnol yn awgrymu bod un o’r hofrenyddion yn dechrau ar ei daith a’r llall yn glanio pan wnaethon nhw daro ei gilydd. 

Diolchodd i aelodau'r cyhoedd oedd ymhlith y rhai cyntaf i gyrraedd, gan ychwanegu bod y lleoliad - banc tywod - wedi gwneud mynediad yn anodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.