Jonny Clayton allan o Bencampwriaeth Dartiau'r Byd
01/01/2023
Mae Jonny Clayton allan o Bencampwriaeth Dartiau'r Byd wedi iddo golli yn erbyn Dimitri van den Bergh yn rownd yr wyth olaf.
Collodd Clayton o 5-3 wedi gêm agos yn erbyn van den Bergh.
Bydd Gerwyn Price yn chwarae ddydd Sul yn rownd yr wyth olaf, gyda rhif 1 rhestr detholion y byd dartiau yn gobeithio ennill ei ail bencampwriaeth.
Bydd Price yn wynebu Gabriel Clemens am 19:30.