Dros 45,000 o fudwyr wedi croesi'r Sianel yn 2022
Fe wnaeth dros 45,000 o fudwyr groesi'r Sianel yn 2022, yn ôl ffigyrau gan Lywodraeth y DU.
Dangosodd y ffigyrau fod cyfanswm o 45,756 o fudwyr wedi croesi, gyda'r croesiad diwethaf ar ddiwrnod Nadolig pan y gwnaeth 90 o bobl deithio o Ffrainc ar ddau gwch.
Roedd y Swyddfa Gartref wedi amcangyfrif yn flaenorol y byddai hyd at 60,000 o bobl yn gallu gwneud y daith yn ystod y flwyddyn.
Mae'r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman wedi dweud ei bod wedi “ymrwymo” i sicrhau bod y cynllun i anfon mudwyr i Rwanda yn llwyddiant.
Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi addo creu deddfwriaeth yn 2023 er mwyn ei gwneud yn glir "os ydych chi'n cyrraedd y DU yn anghyfreithlon, does gennych chi ddim hawl i aros yma."
Llun: Sandar Csudai