Newyddion S4C

Rhyddhau trydydd person gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth Elle Edwards

31/12/2022
Elle Edwards

Mae swyddogion yng Nglannau Mersi wedi rhyddhau trydydd person a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Elle Edwards ar Noswyl Nadolig.

Roedd Ms Edwards, 26, yn dathlu'r Nadolig gyda'u ffrindiau yn nhafarn y Lighthouse ym mhentref Wallasey, Cilgwri, pan gafodd ei saethu toc cyn hanner nos ar 24 Rhagfyr.

Cafodd ei saethu yn ei phen a bu farw o'i hanafiadau yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Dywedodd Heddlu Glannau Mersi ddydd Sadwrn eu bod wedi rhyddhau dyn 31 oed o Tranmere ar fechnïaeth a gafodd ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.

Cafodd dau arall a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'i marwolaeth eu rhyddhau ddydd Gwener.

Fe ddaw'r datblygiad wedi i deulu Elle Edwards ei disgrifio fel "y seren fwyaf prydferth a llachar" yn ystod cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener.

Mae'r ymchwiliad i'r llofruddiaeth yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.