Y cyn-Bab Bened XVI wedi marw yn 95 oed
Mae'r cyn-Bab Bened XVI wedi marw yn 95 oed.
Fe ymddeolodd yn 2013 - arweinydd cyntaf yr Eglwys Gatholig i wneud hynny mewn 600 mlynedd.
Bu farw am 9:34 fore dydd Sadwrn ym Mynachdy Mater Ecclesiae yn y Fatican.
Cafodd ei ethol yn 2005 a phan ymddeolodd fe ddywedodd y byddai'n parhau i wasanaethu'r eglwys.
Ar y pryd, roedd yr Eglwys Gatholig yn wynebu pwysau i wneud mwy i ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth.
Roedd yn fab i heddwas ac fe wnaeth fyw dan reolaeth y Natsïaid pan oedd yn blentyn.
Y Pab Bened oedd yr Almaenwr cyntaf i gael ei ethol yn Bab mewn 1,000 o flynyddoedd.
Roedd Pab Ffransis wedi gofyn i bobl weddïo dros y cyn-Bab oedd yn "sâl iawn" yn ystod yr wythnosau diwethaf.
I am saddened to learn of the death of Pope Emeritus Benedict XVI.
— Rishi Sunak (@RishiSunak) December 31, 2022
He was a great theologian whose UK visit in 2010 was an historic moment for both Catholics and non-Catholics throughout our country.
My thoughts are with Catholic people in the UK and around the world today.
Mae Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, wedi dweud ei fod wedi ei dristáu i glywed am farwolaeth y cyn-Bab a bod ei ymweliad â'r DU yn 2010 yn foment "hanesyddol".
O fore dydd Llun, bydd corff y Pab Emeritws Bened yn Basilica Sant Pedr fel bod y "ffyddlon" yn gallu dweud ffarwel.
Llun: PA