Heddlu'n ymchwilio i ymosodiad honedig ar ddyn 79 oed yng Nghaerffili
31/12/2022
Heddlu.
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i ymosodiad honedig ar ddyn 79 oed yng Nghaerffili.
Cafodd y dyn ei anafu ar High Street, Coed Duon, am tua 15:00 ar ddydd Iau, 29 Rhagfyr.
Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty lle mae'n parhau mewn cyflwr sefydlog.
Cafodd dyn 35 oed o ardal Caerdydd ei arestio ar amheuaeth o ymosod, ac mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a fedrai fod o gymorth gyda'r ymchwiliad i gysylltu â nhw ar 101 gan ddefnyddio cyfeirnod 2200433334.