Pennaeth GIG Cymru yn annog pobl i leihau’r pwysau ar y gwasanaeth
Mae Pennaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn annog pobl i leihau’r pwysau ar y gwasanaeth yn ystod cyfnod "prysuraf" y flwyddyn.
Mewn datganiad dywedodd Judith Paget: “Rhaid i ni i gyd wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd”, wrth i wasanaethau wynebu mwy o alw nag erioed.
Yn ôl y GIG, y Flwyddyn Newydd yw’r amser prysuraf o’r flwyddyn fel arfer iddyn nhw, yn enwedig mewn adrannau achosion brys.
Mae byrddau iechyd ar draws Cymru wedi gofyn i bobl beidio ag ymweld â phobl yn yr ysbyty os oes ganddyn nhw symptomau tebyg i’r ffliw, er mwyn diogelu cleifion mewn ysbytai.
Ychwanegodd y datganiad bod y GIG wedi gweld cynnydd sydyn yn yr achosion wedi’u cadarnhau o’r ffliw, Covid a heintiau anadlol feirol eraill yn cael eu derbyn i ysbytai ym mis Rhagfyr.
“Y gaeaf yma mae ein GIG yn wynebu galw fel na welsom ei debyg erioed o’r blaen. Mae’n gwbl hanfodol felly ein bod ni i gyd yn meddwl yn ofalus am yr hyn rydyn ni’n ei wneud fel unigolion i leddfu’r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd,” meddai Ms Paget.
“Mae ein Hadrannau Achosion Brys yn arbennig yno i helpu’r rhai sydd angen y gofal mwyaf brys yn yr amser byrraf posibl, felly ystyriwch a oes angen i chi fynychu, neu a oes opsiynau eraill, fel edrych ar wefan GIG 111 Cymru."
Fe wnaeth y llinell gymorth 111 GIG Cymru weld y nifer uchaf erioed o alwadau’n cael eu derbyn mewn un diwrnod ar ddydd Mawrth 27 Rhagfyr.
Ychwanegodd Ms Paget: “Mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae mewn amddiffyn ein gwasanaeth iechyd, felly rhaid i ni i gyd feddwl yn ofalus a gwneud yr hyn allwn ni i gefnogi ein nyrsys, y meddygon a holl staff y GIG y gaeaf yma.”