Newyddion S4C

Gwahardd trwydded clwb nos lle bu farw dyn yn Birmingham

30/12/2022
Marwolaeth Birmingham

Mae trwydded clwb nos yn Birmingham lle cafodd dyn ei drywanu i farwolaeth wedi cael ei wahardd. 

Bu farw Cody Fisher ar ôl iddo gael ei drywanu yng nghlwb Crane yn y ddinas ychydig cyn 23:45 ar Ŵyl San Steffan.

Fe wnaeth Cyngor Dinas Birmingham gynnal cyfarfod ddydd Gwener wedi i Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr ddweud fod yna "fethiannau rheoli sylweddol" wedi digwydd yn y clwb nos. 

Mae trwydded y clwb bellach wedi cael ei wahardd gan y cyngor tan y bydd yna wrandawiad llawn yn cael ei gynnal ymhen pedair wythnos. 

Cyhoeddodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr eu bod wedi arestio dyn 22 oed ychydig wedi hanner nos yng nghanol dinas Birmingham, dyn 21 oed a gafodd ei arestio yn Llundain, yn ogystal â thrydydd person mewn cysylltiad â'r farwolaeth. 

Bellach mae'r heddlu wedi derbyn caniatâd gan y llys i ddal y ddau ddyn 21 a 22 oed yn y ddalfa am y tro. Mae'r trydydd person hefyd yn parhau yn y ddalfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.