Rhybudd melyn am law i rannau o Gymru
30/12/2022
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i rannau o Gymru ar gyfer dydd Sadwrn.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am hanner nos nos Wener ac yn para hyd at 21:00 nos Galan.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar 14 sir yng Nghymru.
Mae disgwyl cyfnodau trwm o law trwy gydol dydd Sadwrn, gyda rhai ardaloedd yn gweld 10mm o law o fewn awr.
Gyda'r tir eisoes yn wlyb, fe all y glaw trwm achosi llifogydd mewn mannau gan achosi difrod i rai cartrefi a busnesau.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio fe all y glaw effeithio ar amodau gyrru ac achosi oed i drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Port Talbot Castell-nedd
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Torfaen