Teulu Elle Edwards yn rhoi teyrnged i'r 'seren fwyaf llachar'
Mae teulu Elle Edwards wedi rhoi teyrnged i'r "seren fwyaf llachar" wedi iddi gael ei lladd mewn tafarn yn Lerpwl ar Noswyl Nadolig.
Bu farw Ms Edwards, 26, ar ôl cael ei saethu yn ei phen yn y Lighthouse Inn ym Mhentref Wallasey toc wedi 23:50 ar 24 Rhagfyr.
Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd ei theulu mai hi oedd y "glud" yn y teulu.
"Doedd neb mor brydferth â'n Elle May ni.
"Roedd ganddi ffordd o sicrhau fod pawb yn cwympo mewn cariad â hi yn syth, roedd pawb a wnaeth ei chwrdd yn gwybod pa mor arbennig oedd hi.
"Ni fydd Nadolig nag ein teulu byth yr un peth hebddi. Hi oedd y glud oedd yn cadw'r teulu mawr at ei gilydd.
"Byddwn yn teimlo'r golled yma am byth. Ein Elle May, y seren fwyaf llachar a phrydferth erioed, am byth."
Yn gynharach ddydd Gwener, fe gafodd dau a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Ms Edwards eu rhyddhau o'r ddalfa.
Cafodd dyn 30 oed o Tranmere ei arestio ar amheuaeth o'i llofruddiaeth. Mae'r dyn bellach wedi dychwelyd i'r carchar ar drwydded.
Mae dynes 19 oed o Rock Ferry, a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio, wedi'i rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafodd dyn arall, 31 oed o Tranmere, hefyd ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio ddydd Iau. Mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae teulu Elle Edwards yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol a'r gred yw nad hi oedd targed yr ymosodiad.