Enwi merch wyth oed fu farw ‘heb esboniad’ yng Ngheredigion
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau enw’r ferch wyth oed fu farw yn “sydyn heb esboniad” yn Llanbedr Pont Steffan.
Bu farw Emily Tredwell-Scott nos Iau, 22 Rhagfyr mewn cyfeiriad yn ardal Maes-y-Deri yn y dref.
Cafodd ddynes 33 oed ei harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn ar 23 Rhagfyr. Mae hi wedi cael ei rhyddhau tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Dywedodd Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Graham Brown, eu bod yn gweithio gyda "Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Ceredigion yn dilyn marwolaeth plentyn yn Llanbedr Pont Steffan.
"Rydym yn ymchwilio i gysylltiad â Streptococol Grŵp A ymledol (iGAS), sydd yn gymhlethdod prin iawn o Streptococol Grŵp A.
"Tra ein bod ni'n ymwybodol fod rhieni yn debygol o fod yn poeni, mae achosion iGAS yn parhau yn isel yng Nghymru, ac mae gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd."