Teyrnged i fenyw 'gofalgar' a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Abergele
Mae teulu menyw 71 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad wedi talu teyrnged iddi.
Bu farw Mary Anne Williams o Fetws y Coed yng Nghonwy yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd St Georges yn Abergele am 21:00 23 Rhagfyr.
Dywedodd ei theulu y bydd hi'n "gadael twll yng nghalonnau" ei theulu a ffrindiau.
"Roedd Mary yn wraig gariadus i Richard, mam i Tom, Jane a Henry a nain i Olwen a Hedd.
"Mi oedd hi'n llawer o hwyl, gofalgar ac yn bresenoldeb egnïol. Roedd hi'n caru dawnsio mewn partis, chwarae jôcs a theithio. Roedd 'na wastad brosiect neu antur ar y gweill."
Mae Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad gysylltu gyda'r heddlu cyn gynted â phosib.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth cysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru gan ddefnyddio'r cyfeirnod 22000946333.