Newyddion S4C

Creu gwefan i helpu rhieni iaith Saesneg gyda gwaith ysgol eu plant

30/12/2022

Creu gwefan i helpu rhieni iaith Saesneg gyda gwaith ysgol eu plant

Mae gwefan wedi cael ei chreu er mwyn helpu rhieni sydd ddim yn siarad Cymraeg gyda gwaith ysgol eu plant.

Fe wnaeth yr actores a throsleisydd Bethan Harvey greu'r wefan 'Welsh Reading for Parents' er mwyn helpu rhieni i "gysylltu gyda llyfrau a deunydd eu plant yn y camau cynnar o ddarllen y Gymraeg."

Mae gan Bethan ddau o blant, a chafodd ei hysbrydoli i gychwyn y wefan wedi iddi siarad gyda rhieni eraill nad oedd yn siarad Cymraeg am yr her o gynnig cymorth i'w plant gyda'u gwaith.

"Nesi gweld angen amdano fe rili. 'Wi 'di dod mewn i cysylltiad gyda gymaint o rieni sydd yn cael trafferth i ymgysylltu gyda'r gwaith cartref, gwaith cartref syml i blant ifanc.

"Gyda'r technoleg sydd o gwmpas nawr, pam dy'n ni ddim yn neud rhywbeth i datrys y problem hyn?"

'Popeth wedi selio ar y gwaith'

Prif adnoddau'r wefan ydy fideos, cyfieithiadau a recordiau llais o adnoddau dysgu.

Dywedodd Bethan fod yr holl adnoddau wedi'u selio ar y gwaith bydd plant yn dod gartref i'w rhieni, ac mai hybu'r ymgysylltiad rhwng rhiant a phlentyn ydy prif nod hyn.

"Ma' popeth 'di selio ar y gwaith sy'n dod gartref. Ni'n gobeithio bod e'n neud e'n hawdd i'r rhiant fod yn un cam o flaen y plentyn.

"Ma' fe'n iaith sylfaenol iawn, does dim rhaid i chi fod yn rhugl... ni'n neud y gwaith cartref am y rhieni.

" 'Da ni'n datblygu pethe trwy'r amser a 'dyn ni ishe rhieni hefyd i dweud 'gallet ti neud hyn?' a 'fi'n ca'l trafferth da hon', a wedyn 'da ni ishe gweld sut gallen ni datrys y problem yna trwy creu adnodde.

Rhoi hyder i rieni

Yn ogystal â chreu'r ymgysylltiad rhwng rhiant a phlentyn, mae Bethan yn gobeithio y bydd yr adnoddau yn ffordd i rieni fynd ati i ddysgu'r Gymraeg ac mewn amser, bod yn rhugl yn yr iaith.

"Ma fe'n rhoi hyder nagyw e? Os ti gallu ymgysylltu gyda'ch plentyn a'r gwaith, ti'n tyfu mewn hyder.

Dywedodd Bethan bod y wefan yn gallu bod yn eilydd i gwrs dysgu Cymraeg, a bod rhieni yn gallu cael y gorau o helpu eu plant tra'n dysgu'r iaith.

"Ma'r wefan fel bont, y foment na chi'n ishte na gyda'ch plentyn a dweud 'dyma'r wyddor'... ni ishe rhoi hwnna iddyn nhw.

"A wedyn pryd ma'r plant yn deche tygu, ma' nhw'n dechre cyfieithu ta beth, a dyna pryd 'wi'n gweld y rhieni yn cael yr amser a'r egni dweud eu bod nhw ishe mynd ymlaen i dysgu'r Cymraeg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.