Newyddion S4C

Prisiau tai: Abertawe gyda'r cynnydd uchaf mewn prisiau yng Nghymru

30/12/2022
y mwmbwls

Mae prisiau tai yn Abertawe wedi cynyddu bron i 20% mewn blwyddyn, y mwyaf yng Nghymru.

Mae ffigyrau gan ystadegau cymdeithas adeiladu'r Halifax yn dangos mai Abertawe sydd â'r cynnydd cyfradd uchaf mewn prisiau yn codi i £39,450 yn 2022. 

Dyma'r drydedd uchaf yn y DU, gydag Efrog (23.1%) a Woking (19%) ar frig y rhestr gyda'r cynnydd uchaf.

Ar gyfartaledd byddai tŷ yn Abertawe yn costio £265,379. 

Ond dyw hyn ddim hyd yn oed chwarter pris tai drytaf Cymru, gydag ystadegau Halifax yn dangos mai ardal Pen Benar yn Abersoch sydd gyda'r tai drytaf yn y wlad, gyda phris eiddo yno yn £1,730,000 ar gyfartaledd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.