Stephen Jones a Gethin Jenkins i adael tîm hyfforddi rygbi Cymru
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi y bydd Stephen Jones a Gethin Jenkins yn gadael eu rolau yn y tîm hyfforddi.
Daw hyn yn sgil ailbenodiad Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru wedi i Wayne Pivac adael y swydd ddechrau mis Rhagfyr.
Fe wnaeth Jones ymuno â thîm Cymru fel hyfforddwr ymosod yn ystod Cwpan y Byd yn 2019, wedi iddo dreulio pedair blynedd yn rhan o dîm hyfforddi Pivac gyda'r Scarlets.
Fe wnaeth Jenkins ymuno â Chymru fel hyfforddwr technegol yn 2020, cyn cael ei benodi fel hyfforddwr amddiffyn yn 2021.
Daw'r newidiadau wrth i Gatland baratoi i gyhoeddi ei dîm hyfforddi newydd ar drothwy'r Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd.
Fel rhan o'r tîm hyfforddi newydd, fe fydd Neil Jenkins, hyfforddwr sgiliau a chicio, a Jonathan Humphreys, hyfforddwr y blaenwyr, yn cadw eu rolau o fewn y tîm cenedlaethol.
Mae disgwyl i hyfforddwyr ymosod ac amddiffyn newydd i gael eu penodi ym mis Ionawr.
Llun: Undeb Rygbi Cymru