Newyddion S4C

Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cwpan Hoci’r Byd

29/12/2022
s4c

Mae Cymru wedi enwi eu carfan 20 dyn ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf yng Nghwpan Hoci'r Byd yn India fis nesaf.

Mae'r garfan yn cynnwys Luke Hawker, sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau yng Nghymru, Lewis Prosser a Rupert Shipperley.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Shipperley a Jacob Draper chwarae i Brydain Fawr yng Nghynghrair Pro FIH yn erbyn yr Ariannin a'r Iseldiroedd.

Dywedodd y prif hyfforddwr Danny Newcombe fod dewis carfan ar gyfer y twrnamaint wedi bod yn "dasg anhygoel o anodd".

“Rwy’n gwybod y bydd y garfan hon yn cario’r cyfrifoldeb o chwarae dros eu cenedl gyda chred, angerdd a balchder mawr ar lefel na all dim ond tîm o Gymru ei wneud.”

Y garfan

Toby Reynolds-Cotterill, Rhys Payne, Gareth Furlong, Daniel Kyriakides, Hywel Jones, Ioan Wall, Steve Kelly, Lewis Prosser, Dale Hutchinson, Jacob Draper, Gareth Griffiths, Rhys Bradshaw, Rupert Shipperley, Fred Newbold, Ben Francis, Luke Hawker, James Carson, Jack Pritchard.

Mae'r garfan yn cynnwys dau chwaraewr wrth gefn, Rhodri Furlong a Jolyon Morgan wrth i Gymru baratoi i ymddangos yng Ngrŵp D ynghyd ag India, Lloegr a Sbaen.

Maen nhw’n wynebu Lloegr yn eu gêm agoriadol ar 13 Ionawr cyn herio Sbaen ddeuddydd yn ddiweddarach, gyda’u gêm grŵp olaf yn erbyn India ar 19 Ionawr.

Ychwanegodd Newcombe: “Dyma’r lefel uchaf o gystadleuaeth hoci y gallwn ni fel cenedl gystadlu ynddi ac rwy’n gyffrous i ni gymryd ein lle ar y llwyfan mwyaf.”

Llun: Twitter @Hockeywales

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.