Newyddion S4C

Yr Eidal a'r UDA yn cyflwyno profion Covid gorfodol ar gyfer ymwelwyr o China

The Guardian 28/12/2022
Profion Covid

Yr Unol Daleithiau America yw'r wlad ddiweddaraf i gyhoeddi y bydd yn rhaid i dwristiaid o China gymryd prawf Covid cyn cael mynediad i'r wlad. 

Yr Eidal oedd y wlad cyntaf i gadarnhau ei bod yn cyflwyno profion i ymwelwyr o China nos Fercher.

Wedi tair blynedd o gyfyngiadau llym, mae China wedi cyhoeddi yn ddiweddar y bydd yn llacio'i rheolau Covid o 8 Ionawr 2023, a bydd modd i bobl deithio yn llawer haws.

Yn sgil hynny, mae Siapan, Malaysia, Taiwan ac India wedi dweud y byddant yn gorfodi twristiaid o China i gymryd profion Covid er mwyn cael mynediad i'w gwlad. 

Daw hyn oherwydd pryderon am amrywiolyn newydd.

Mae rheolau China yn llacio wrth i nifer yr achosion o Covid godi yno.

Rhagor yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.