Parc Cenedlaethol Glyndŵr gam yn agosach wedi sêl bendith Cyfoeth Naturiol Cymru

Parc Glyndwr

Mae bodolaeth parc cenedlaethol newydd yn y gogledd ddwyrain wedi cymryd cam cyfreithiol arwyddocaol yn ei flaen, wedi i Gyfoeth Naturiol Cymru ddod i'r casgliad fod y meini prawf statudol wedi eu bodloni wrth edrych ar y cais.

Yn dilyn adolygiad o'r dystiolaeth a'r canfyddiadau o ymgynghoriad statudol 2025, cytunodd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i wneud 'Gorchymyn Dynodi Parc Cenedlaethol Glyndŵr' ddydd Llun.

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried ymhellach y cynnig ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yn seiliedig ar Dirwedd Genedlaethol bresennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn dilyn cyfnod Hysbysiad Cyhoeddus ac ar ôl derbyn gwybodaeth a thystiolaeth, gan gynnwys ymatebion i'r ymgynghoriad.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ei rôl fel cynghorydd statudol, i gymhwyso profion yn ymwneud â harddwch naturiol a chyfleoedd ar gyfer hamdden awyr agored i bobl ddeall a mwynhau'r ardal arbennig hon yn y dynodiad posibl o Barc Cenedlaethol.

Roedd hyn yn cynnwys asesu'r nodweddion daearyddol yn yr ardal, gwerthuso ei haddasrwydd yn erbyn y diffiniadau cyfreithiol o Barc Cenedlaethol, pennu ffiniau'r Parc newydd; a gwneud argymhelliad i Weinidogion.

'Casglu data'

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, "mae CNC wedi cynnal gwerthusiadau manwl, casglu data, cynnal asesiadau technegol, ac ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid, gan gynnwys ymgysylltu â'r cyhoedd yn 2023, ymgynghoriad cyhoeddus yn 2024, a'r ymgynghoriad statudol diweddaraf yn 2025" meddai'r corff amgylcheddol mewn datganiad.

Mae penderfyniad y Bwrdd wedi'i wneud "yn seiliedig ar faterion sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r profion statudol a'r meini prawf ar gyfer dynodiad, gan gydnabod yr ystod o adborth, cefnogaeth a phryderon, gan gynnwys gwrthwynebiadau gan awdurdodau lleol fel ymgyngoreion statudol yn ystod yr ymgynghoriad."

'Bodloni'r gofyniad statudol'

Dyweodd Neil Sachdev, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym wedi asesu’r dystiolaeth a barn pobl fel rhan o’r ymgynghoriad ac wedi cymhwyso profion statudol yn ymwneud â harddwch naturiol a nodweddion daearyddol yr ardal a chyfleoedd ar gyfer twristiaeth fwy cynaliadwy. Roedd ein Bwrdd yn fodlon bod Parc Cenedlaethol arfaethedig Glyndŵr, a'i ffin, yn bodloni'r gofyniad statudol ar gyfer dynodiad.

“Rydym yn cydnabod yr holl adborth a fynegwyd hyd yma ac eisiau rhoi sicrwydd i gymunedau y bydd pob sylw, gan gynnwys cefnogaeth a gwrthwynebiadau, ynghyd â thystiolaeth ategol, yn cael eu darparu i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus i gynorthwyo eu penderfyniad terfynol.”

Bydd cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus yn dechrau ar 16 Ionawr 2026 ac yn para tan 15 Chwefror 2026, gan roi cyfle pellach i bobl ymateb yn ffurfiol i'r cynnig.

Yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus, bydd y Gorchymyn Dynodi a'r dogfennau ategol ar gael ar-lein ac mewn adeiladau cyhoeddus ledled y rhanbarth. 

Ar ddiwedd y cyfnod hwn, bydd CNC yn cyflwyno'r holl wybodaeth i Lywodraeth Cymru, a fydd yn ystyried tystiolaeth CNC ochr yn ochr â materion ehangach a godwyd gan y cyhoedd a rhanddeiliaid cyn cytuno ar y camau nesaf.

Llun: CNC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.