Rhagolwg gemau dydd Sadwrn y Cymru Premier JD

Yn dilyn gornestau darbi cyffrous Gŵyl San Steffan bydd clybiau’r Cymru Premier JD yn chwarae’r gemau cyfatebol dros y deuddydd nesaf.
Rydyn ni’n tynnu at derfyn rhan gynta’r tymor ac wrth i’r hollt yn y gynghrair agosáu mae’r pwysau’n cynyddu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf.
Wedi 22 rownd o gemau bydd y tabl yn hollti’n ddwy a bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop tra bydd y Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair.
Mae’r Seintiau Newydd a Chei Connah eisoes wedi selio eu lle yn y Chwech Uchaf, ac mae Met Caerdydd a’r Bala hefyd yn eithaf saff o gyrraedd y nod.
Ar gyfartaledd, mae 31 o bwyntiau wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn yr hanner uchaf, a dim ond un fuddugoliaeth yr un sydd ei angen ar Y Drenewydd a Phen-y-bont i basio’r trothwy hwnnw.
Airbus UK (12fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Byddai’r tîm sydd heb ennill yn y gynghrair y tymor yma ddim wedi edrych ymlaen at orfod wynebu’r tîm sydd heb golli dros y Nadolig, ond dyna oedd yr her oedd yn wynebu Airbus, ac yn anffodus i Jamie Reed a’i garfan, doedd y sgôr o 7-0 i’r Seintiau ddim yn ormod o sioc i’r niwtral.
A bydd rhaid i Airbus lyfu eu clwyfau’n frysiog gan bod tîm Craig Harrison yn teithio i’r Maes Awyr ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers iddyn nhw dorri’r record am y fuddugoliaeth fwyaf erioed oddi cartref yn Uwch Gynghrair Cymru gan daro 12 ‘nôl yn Nhachwedd 2019 (Air 0-12 YSN).
Dyw’r Seintiau Newydd yn dal heb golli gêm gynghrair y tymor yma, ac mae’r pencampwyr presennol bellach ar rediad o 23 gêm gynghrair heb golli (ennill 19, cyfartal 4).
Bydd Airbus yn benderfynol o beidio cyrraedd yr hollt gyda llai na dim o bwyntiau, ac mae hogiau Jamie Reed mewn perygl o dorri’r record fel y clwb gwaethaf erioed yn hanes y gynghrair.
Ar ôl derbyn triphwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys yn erbyn Caernarfon ym mis Medi mae Airbus yn parhau ar -2 o bwyntiau ar ôl colli 16 o’u 17 gêm gynghrair ers eu dyrchafiad.
Ebrill 2016 oedd y tro diwethaf i Airbus guro’r Seintiau, ond mae cewri Croesoswallt wedi ennill y saith gêm ganlynol rhwng y timau gan sgorio 40 o goliau (5.7 gôl y gêm).
Record cynghrair diweddar:
Airbus UK:❌❌❌❌❌
Y Seintiau Newydd: ✅➖✅➖✅
Hwlffordd (7fed) v Pontypridd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd hi’n chwip o gêm ym Mhontypridd ar ddydd San Steffan wrth i dîm Andrew Stokes sgorio yn yr eiliadau olaf i gipio eu triphwynt cyntaf ers mis Hydref (Pont 3-2 Hwl).
Mae’r canlyniad hwnnw yn golygu mae dim ond dau bwynt bellach sy’n gwahanu Pontypridd a diogelwch y 10fed safle, ac yn y cyfamser mae Ponty wedi chwalu gobeithion Hwlffordd o gyrraedd yr hanner uchaf.
Dim ond tair gêm sy’n weddill gan yr Adar Gleision cyn yr hollt, a gyda’r ddwy olaf yn erbyn Y Seintiau Newydd a Chei Connah mae’n mynd i gymryd gwyrth i Hwlffordd hawlio lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf yng nghyfnod y 12-Disglair.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌ ✅❌❌✅
Pontypridd: ✅❌❌❌❌
Y Fflint (9fed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30
Doedd darbi Sir Y Fflint yn sicr ddim yn glasur ar gae trwm Cei Connah brynhawn Llun (Cei 2-0 Ffl), ond bydd Lee Fowler yn disgwyl gwell perfformiad gan ei dîm gartref ar Gae-y-Castell ddydd Sadwrn.
Gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu wyth gêm ddiwethaf, dyw’r Fflint bellach ond driphwynt uwchben safleoedd y cwymp ac mae’r Chwech Uchaf yn prysur llithro o’u gafael.
Mae Cei Connah ar rediad anhygoel o 17 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 15, cyfartal 2), sef eu cyfnod hiraf erioed heb golli.
Pedwar pwynt sy’n gwahanu’r Nomadiaid a’r Seintiau Newydd ar frig y tabl, ac er bod gan y Seintiau gêm wrth gefn bydd hogiau Neil Gibson yn awyddus i gadw’r pwysau ar y ceffylau blaen.
Mae Cei Connah ar rediad o wyth gêm heb golli yn erbyn Y Fflint (ennill 7, cyfartal 1) a dyw’r Sidanwyr heb guro’r Nomadiaid yn yr uwch gynghrair ers 1997.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌✅➖❌❌
Cei Connah: ✅➖✅✅➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.