Darnau arian newydd yn dathlu'r GIG a'r genhedlaeth Windrush
Bydd cyfraniad y genhedlaeth Windrush a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael eu cydnabod mewn darnau arian newydd ar gyfer 2023.
Mae'r darnau arian gan y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn gasgliad coffa, ac yn nodi penblwyddi, cerrig milltir a digwyddiadau, gan gynnwys pen-blwydd y Brenin Charles yn 75 oed.
Bydd casgliad blynyddol 2023 yn cynnwys darn £5 yn nodi pen-blwydd y Brenin yn 75, darn £2 yn dathlu bywyd a gwaith yr awdur JRR Tolkien, darn £2 yn dathlu canmlwyddiant y tren Flying Scotsman, 50c yn dathlu 75 mlynedd y Gwasanaeth Iechyd a 50c yn cofnodi cyfraniad y genhedlaeth Windrush.
Mae’r darn 50c yn nodi 75 mlynedd ers i’r llong HMT Empire Windrush gyrraedd porthladd Tilbury yn Essex o'r Caribî, gyda 500 o deithwyr ar ei bwrdd. Mae’r darn yn cynnwys cynllun gan yr artist Valda Jackson. Daeth ei rhieni i Brydain o’r Caribî.
Yn sgil marwolaeth Y Frenhines Elizabeth II yn 2022, bydd holl ddarnau arian newydd y Bathdy Brenhinol o 1 Ionawr 2023 yn cynnwys llun o'r Brenin Charles.