Newyddion S4C

Cipolwg ar gemau nos Wener y Cymru Premier JD

Sgorio 30/12/2022
Met Caerdydd v Hwlffordd

Yn dilyn gornestau darbi cyffrous Gŵyl San Steffan bydd clybiau’r Cymru Premier JD yn chwarae’r gemau cyfatebol dros y deuddydd nesaf.

Rydyn ni’n tynnu at derfyn rhan gynta’r tymor ac wrth i’r hollt yn y gynghrair agoshau mae’r pwysau’n cynyddu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf.

Wedi 22 rownd o gemau bydd y tabl yn hollti’n ddwy a bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop tra bydd y Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair.

Mae’r Seintiau Newydd a Chei Connah eisoes wedi selio eu lle yn y Chwech Uchaf, ac mae Met Caerdydd a’r Bala hefyd yn eithaf saff o gyrraedd y nod.

Ar gyfartaledd, mae 31 o bwyntiau wedi bod yn ddigon i sicrhau lle yn yr hanner uchaf, adim ond un fuddugoliaeth yr un sydd ei angen ar Y Drenewydd a Phen-y-bont i basio’r trothwy hwnnw.

Y Drenewydd (5ed) v Aberystwyth (10fed) | Dydd Gwener – 17:45 (S4C)

Yn narbi’r canolbarth bydd Aberystwyth yn gobeithio talu’r pwyth yn ôl wedi i’r Drenewydd ennill 1-2 ar Goedlan y Parc ar ddydd San Steffan diolch i ddwy gôl gan yr amddiffynnwr canol Kieran Mills-Evans.

Bydd carfan Chris Hughes yn anelu am eu pedwaredd buddugoliaeth yn olynol yn erbyn Aberystwyth wrth i’r Robiniaid ddechrau breuddwydio am gyrraedd Ewrop am y trydydd tymor o’r bron.

Mae’r Drenewydd wedi ennill saith o’u wyth gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, tra bod Aberystwyth wedi colli chwech mewn saith.

Dyw Aberystwyth heb gadw llechen lân yn y gynghrair y tymor yma, a gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu tîm Anthony Williams a Phontypridd (11eg), mae’n edrych yn bur debygol y bydd y Gwyrdd a’r Duon yn gorffen yn yr hanner isaf am yr wythfed blwyddyn yn olynol, ac yn gorfod brwydro eto i osgoi’r cwymp.

Record cynghrair diweddar:

Y Drenewydd: ✅❌✅✅✅

Aberystwyth:❌❌❌❌✅ 

Met Caerdydd (3ydd) v Pen-y-bont (6ed) | Dydd Gwener – 19:45

Wedi rhediad rhagorol o chwe gêm gynghrair heb golli (ennill 5, cyfartal 1), yn cynnwys buddugoliaeth o 1-3 ym Mhen-y-bont, mae’n ymddangos fel bod Met Caerdydd wedi gwneud digon i hawlio lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2017/18.

Mae gan y myfyrwyr record gartref ardderchog, gyda’r clwb ond wedi colli dwy o’u 20 gêm yng Nghampws Cyncoed yn 2022 (ennill 13, cyfartal 5).

Gyda pum gêm i fynd tan yr hollt, mae angen triphwynt ar Ben-y-bont i gyrraedd y targed o 31 o bwyntiau, sydd fel arfer yn ddigon i selio lle’n y Chwech Uchaf.

Mae Pen-y-bont yn anelu i gyrraedd y Chwech Uchaf am y trydydd tymor yn olynol, a gan bod eu tair gêm nesaf yn erbyn clybiau o’r hanner gwaelod (Airbus, Caernarfon, Aberystwyth), bydd tîm Rhys Griffiths yn hyderus y gallen nhw gyrraedd y targed eto eleni.

Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ✅✅✅➖✅
Pen-y-bont: ❌✅❌➖✅

Y Bala (4ydd) v Caernarfon (8fed) v | Dydd Gwener – 19:45

Gyda 33 o bwyntiau ar y bwrdd, a phum gêm i’w chwarae tan yr hollt mae’n debygol bod Y Bala yn mynd i chwarae’n y Chwech Uchaf am y nawfed tymor yn olynol.

Wedi cerdyn coch cynnar i’r Cofi, Ryan Williams, aeth Y Bala ymlaen i ennill yn gyfforddus ar Yr Oval brynhawn Llun (Cfon 1-5 Bala), a bellach dyw tîm Colin Caton ond wedi colli un o’u 10 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.

Ar ôl cyfnod anodd o chwe gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth (colli 5, cyfartal 1) mae gan Gaernarfon fynydd i’w ddringo os am sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y pumed tymor o’r bron.

Mae gan Y Bala record ryfeddol gartref y tymor yma gyda wyth buddugoliaeth a saith llechen lân yn eu 10 gêm ddiwethaf ar Faes Tegid ym mhob cystadleuaeth.

Hon fydd y seithfed gêm rhwng y clybiau yn 2022 a dyw’r Bala heb golli dim un o’r chwegêm flaenorol (ennill 5, cyfartal 1).

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ✅✅✅❌✅

Caernarfon:❌❌❌➖❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.