Newyddion S4C

Heddlu yn ymchwilio ar ôl i ferch wyth oed farw yng Ngheredigion

28/12/2022
Maes y Deri Llambed

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i "farwolaeth sydyn heb esboniad" merch 8 oed yn Llanbedr Pont Steffan.

Yn ôl yr heddlu, bu farw'r ferch nos Iau, 22 Rhagfyr mewn cyfeiriad ar ystad Maes-y-Deri yn y dref.

Cafodd dynes 33 oed ei harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn ar 23 Rhagfyr ac mae hi bellach wedi cael ei rhyddhau tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Dywedodd Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Graham Brown, eu bod yn gweithio gyda "Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Ceredigion yn dilyn marwolaeth plentyn yn Llanbedr Pont Steffan.

"Rydym yn ymchwilio i gysylltiad â Streptococol Grŵp A ymledol (iGAS), sydd yn gymhlethdod prin iawn o Streptococol Grŵp A.

"Tra ein bod ni'n ymwybodol fod rhieni yn debygol o fod yn poeni, mae achosion iGAS yn parhau yn isel yng Nghymru, ac mae gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.