Y Pab Ffransis yn dweud fod ei ragflaenydd Y Pab Bened yn 'ddifrifol wael'
Mae'r Pab Ffransis wedi gofyn i bobl weddïo dros ei ragflaenydd, Y Pab Bened XVI, gan ychwanegu ei fod yn 'ddifrifol wael'.
Ni wnaeth Y Pab Ffransis fanylu ynglŷn â salwch Y Pab Bened, ond dywedodd y Fatican fod ei gyflwr wedi "dirywio yn sydyn oherwydd ei oed" yn yr oriau diwethaf.
"I would like to ask you all for a special prayer for Pope Emeritus Benedict, who in silence is supporting the Church. Remember him - he is very ill - asking the Lord to console him, and sustain him in this witness of love for the Church, until the end."#PopeFrancis pic.twitter.com/olWyYugUaU
— Vatican News (@VaticanNews) December 28, 2022
Bened oedd y pab cyntaf mewn 600 mlynedd i ymddiswyddo yn 2013, a hynny oherwydd cyflwr ei iechyd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Fatican ei fod yn derbyn gofal meddygol yn gyson ac mae ei gyflwr "yn cael ei reoli."