Gweithwyr rheilffyrdd a llu'r ffin yn parhau â'u streic
Bydd gweithwyr rheilffyrdd a llu'r ffin yn parhau â'u streic ddydd Mercher.
Bydd aelodau undeb y TSSA sy’n gweithio i Great Western Railway (GWR) a West Midlands Trains (WMT) yn streicio o 12:00 tra bydd aelodau’r PCS gyda Llu'r Ffiniau yn parhau â'u streic.
Mae undebau'r rheilffyrdd wedi lansio streiciau yn sgil anghydfod dros gyflogau ac amodau gan ddweud y dylen nhw gael codiad cyflog i adlewyrchu'r argyfwng costau byw.
Bydd gweithwyr llu'r ffin yn streicio ym maes awyr Caerdydd, Heathrow, Gatwick, Manceinion, Birmingham a Glasgow.
Bydd gweithwyr llu'r ffin yn parhau â'u streic tan 31 Rhagfyr tra bydd aelodau'r RMT yn streicio nesaf ar 3 a 4 Ionawr.