Busnes teuluol Shaws The Drapers yn nwylo'r gweinyddwyr
27/12/2022
Mae busnes tecstiliau Shaws The Drapers yn nwylo'r gweinyddwyr.
Cafodd Shaws ei sefydlu dros ganrif yn ôl, er mwyn gwerthu tecstilau, llenni a dillad gwely.
Cafodd staff lythyr yn ddiweddar yn dweud bod y cwmni'n wynebu cyfnod heriol, a bod yn rhaid gwerthu'r stoc cyn y Nadolig.
Y gred yw fod y datblygiad diweddaraf yn effeithio ar ryw gant a hanner o staff.
Mae gan y cwmni 15 o siopau ar draws y de, o Hwlffordd i Gasnewydd.