Lansio hysbyseb teledu i annog pobl i arbed ynni
27/12/2022
Wrth i gostau byw gynyddu, mae Llywodraeth y DU yn lansio hysbyseb teledu ddydd Mawrth er mwyn annog pobl i arbed ynni.
Mae'n rhan o fenter £18m y llywodraeth er mwyn codi ymwybyddiaeth am fesurau "rhwydd" y gall pobl eu cymryd er mwyn lleihau eu biliau yn ystod misoedd y gaeaf.
The elf has popped back - just in time for our new TV ad on energy tips, out today👀
— Rt Hon Grant Shapps MP (@grantshapps) December 27, 2022
Keep an eye out this winter for the #ItAllAddsUp campaign, which is full of ways to help save on your bills. pic.twitter.com/XsQAZrBIGW
Bydd yr hysbyseb 30 eiliad yn cael ei darlledu ar y prif sianeli o ddydd Mawrth ymlaen, gan gynnig argymhellion ar sut i arbed ynni.