Teyrnged i ddyn a gafodd ei drywanu mewn clwb nos yn Birmingham
Mae'r heddlu wedi enwi dyn 23 oed fu farw ar ôl cael ei drywanu mewn clwb nos yn Birmingham ar Ŵyl San Steffan.
Ymosodwyd ar Cody Fisher yng nghlwb Crane yn y ddinas ychydig cyn 23:45 wedi adroddiadau fod dyn wedi cael ei drywanu.
Bu farw hanner awr yn ddiweddarach.
#UPDATE | We can now name the young man who died as Cody Fisher.
— Birmingham Police (@BrumPolice) December 27, 2022
His family said tonight: "They have broken our hearts; I have lost my best friend. My family and I are asking for privacy and respectfulness at this heart-breaking time." pic.twitter.com/xErz4SvBJ6
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd ei deulu "eu bod nhw wedi torri ein calonnau. Rydw i wedi colli fy ffrind gorau. Mae fy nheulu a minnau yn gofyn am breifatrwydd a pharch yn ystod y cyfnod torcalonnus yma."
Dywedodd yr heddlu fod ei deulu wedi cael gwybod a byddant yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbennig.