Arestio dyn a dynes wedi i ddynes gael ei saethu'n farw ar Noswyl Nadolig
27/12/2022
Mae dyn a dynes wedi cael eu harestio ar ôl i ddynes gael ei saethu'n farw ger Lerpwl ar Noswyl Nadolig.
Cafodd Elle Edwards, 26, ei saethu yn ei phen mewn tafarn ar 24 Rhagfyr.
Cafodd swyddogion eu galw i'r Lighthouse Inn ym Mhentref Wallasey toc wedi 23:50 nos Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod gwn wedi ei danio.
Dywedodd yr heddlu fod dyn 30 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio yn ogystal â dynes 19 oed ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.
Mae teulu Elle Edwards yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol a'r gred yw nad hi oedd targed yr ymosodiad.