Rhai cartrefi yn Sir Fynwy heb gyflenwad dŵr am yr ail ddiwrnod yn olynol
Mae rhai cartrefi yn Sir Fynwy wedi'u gadael heb gyflenwad dŵr am yr ail ddiwrnod.
Roedd rhai trigolion heb ddŵr ar ddiwrnod Nadolig, ac mae problemau gyda chyflenwad yn parhau ar ddiwrnod San Steffan.
Dywedodd Dŵr Cymru fod yna broblemau gyda chyflenwadau lleol ym mhentref Tryleg.
Yn ôl Dŵr Cymru, mae'r problemau wedi'u hachosi gan "gloeon aer" sydd wedi codi wrth i'r rhwydwaith pibelli gael ei adfer.
Mae Aelod Seneddol Sir Fynwy, David TC Davies, yn dweud ei fod wedi bod mewn cysylltiad â Phrif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry, am y broblem.
Dyweda Mr Davies bod Dŵr Cymru wedi dweud wrtho y bydd y cyflenwad dŵr wedi eu adfer erbyn nos Lun.
Water Supply in the #Trellech area pic.twitter.com/6AWf9KMrhY
— David TC Davies MP 🏴🇬🇧 (@DavidTCDavies) December 26, 2022
Mae orsaf ddŵr wedi ei sefydlu er mwyn i bobl gasglu dŵr, yng ngwesty'r Premier Inn ar Heol Portal yn Nhrefynwy.
Daw hyn wedi i nifer o gartrefi ar draws canolbarth a gorllewin Cymru ddioddef problemau gyda'u cyflenwadau dŵr dros y dyddiau diwethaf.
Fe wnaeth Dŵr Cymru ymddiheuro i'r cartrefi sydd wedi'u heffeithio gan ddweud bod eu timau wedi bod yn gweithio trwy gydol y nos i geisio datrys y problemau.