O leiaf 65 wedi marw mewn storm eira yng Ngogledd America
28/12/2022
Mae o leiaf 65 person wedi marw ar ôl i Ogledd America gael ei tharo gan storm eira.
Dros y dyddiau diwethaf mae UDA, Canada a Mecsico wedi bod yn brwydro yn erbyn storm a thymheredd o -45°C mewn rhai ardaloedd.
Mae o leiaf 28 person wedi marw yn ninas Buffalo yn nhalaith Efrog Newydd, lle mae cerbydau'r gwasanaethau brys yn methu â chyrraedd pobl oherwydd yr eira.
Y gred yw y bydd y storm aeafol yn parhau yn ystod y dyddiau nesaf.
Mae 55 miliwn o bobl yn byw mewn ardaloedd lle mae rhybudd tywydd mewn grym.
Mae'r Arlywydd Biden wedi awdurdodi cymorth ffederal ar gyfer Efrog Newydd, lle mae degau ar filoedd o bobl yn parhau heb bŵer yn sgil y storm.