Degfed person yn marw ar ôl ffrwydriad mewn bloc o fflatiau ar Jersey
26/12/2022
Mae degfed person wedi marw ar ôl ffrwydrad a ddigwyddodd mewn bloc o fflatiau ar ynys Jersey.
Bu farw Kathleen McGinness, 73, ar fore Nadolig. Fe wnaeth hi farw o'i hanafiadau yn y ffrwydrad.
Mewn datganiad, dywedodd Pennaeth Heddlu Jersey, Robin Smith ei fod yn "drist iawn" o gadarnhau marwolaeth arall mewn cysylltiad â’r ffrwydrad.
Ychwanegodd: "Mae ei theulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion, ac mae holl feddyliau Heddlu Jersey gyda nhw."
Fe wnaeth y bloc o fflatiau ffrwydro ar 10 Rhagfyr, gyda thri yn marw a 12 ar goll.
Dros y dyddiau canlynol roedd chwe pherson arall wedi marw, er i'r chwilio barhau am fwy o bobl.