Covid-19: Data 'rhif R' i beidio cael ei gyhoeddi o fis nesaf
Ni fydd data'r "gyfradd R" Covid-19 yn cael ei gyhoeddi o ddechrau mis Ionawr.
Dywedodd prif wyddonydd data Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Dr Nick Watkins, nad oedd cyhoeddi'r data penodol hwn yn "angenrheidiol bellach" yn sgil brechlynnau a meddyginiaethau.
Roedd y ffigwr "R" yn wreiddiol wedi ei gyhoeddi ar gyfer y DU i gyd ym mis Mai 2020 tan fis Ebrill 2021 pan gafodd ei gyhoeddi ar gyfer Lloegr yn unig.
Mae'r gyfradd yn cyfeirio at y nifer o bobl y bydd rhywun sydd â'r feirws yn eu heintio.
Bydd y diweddariad olaf o gyfradd R Covid-19 yn cael ei gyhoeddi ar 6 Ionawr.
Ond mae'r Asiantaeth yn dweud y bydd data sy'n amcangyfrif o faint o bobl sydd wedi eu heintio gan Covid-19 yn parhau i gael ei gyhoeddi drwy holiadur y Swyddfa Ystadegau Gwladol.