
Croesawu babanod dydd Nadolig i'r byd
Wrth i deuluoedd gyfarfod i ddathlu'r Nadolig, mae rhai gweithwyr hanfodol ar hyd a lled y wlad wedi bod yn brysur fel ar unrhyw ddiwrnod arall o'r flwyddyn.
Ac mae hynny'n wir am y bydwragedd sydd yn gweithio'n ddiwyd mewn ysbytai ar hyd Cymru ar ddydd Nadolig eleni, gan gynnig cymorth i famau wrth groesawu aelodau newydd o'u teuluoedd i'r byd.
Yn y gogledd mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi lluniau o rai o'r babanod gafodd eu geni dan ofal eu bydwragedd ddydd Sul.

Am 02.41 rhoddodd Savannah Robinson enedigaeth i Bobby yn Ysbyty Glan Clwyd, a'r bachgen bach yn pwyso 3.860kg.
Yn Ysbyty Gwynedd croesawodd yr uned famolaeth Patrick Roman Scanlon, gafodd ei eni am 00.48, yn pwyso 3.265kg.
Hefyd yn Ysbyty Gwynedd am 07.13 croesawodd Irasema Molina-Soto a Barry Evans Sofia i'r byd, a hithau'n pwyso 4.105kg.
Llongyfarchiadau mawr i'r holl rieni newydd ar ddydd Nadolig.