Tri o bobl yn cynnwys merch dair oed wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad
Mae tri o bobl, gan gynnwys merch dair oed, wedi’u hanafu mewn gwrthdrawiad ar ddydd Nadolig, meddai’r heddlu.
Digwyddodd y ddamwain tua 13:00 yn y Coed Duon yng Ngwent.
Dywedodd Heddlu Gwent fod y digwyddiad yn ymwneud â Vauxhall Corsa, Mini Cooper a Vauxhall Astra.
Mae dyn 29 oed wedi dioddef anafiadau sy’n bygwth ei fywyd, gyda merch dair oed wedi’i hanafu’n ddifrifol, a dynes 33 oed wedi’i hanafu.
Roedd y tri yn teithio yn y Corsa, ac maen nhw wedi eu cludo i'r ysbyty.
Mae gyrrwr y Mini Cooper wedi dioddef mân anafiadau, ac mae wedi cael ei arestio ar amheuaeth o dair trosedd - yn cynnwys achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, a gyrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Rydym wedi bod yn gwneud ymholiadau i ddod o hyd i Vauxhall Astra coch, oedd hefyd yn cael ei yrru ar y ffordd ar y pryd ac rydym bellach wedi dod o hyd i’r car.
“Mae dyn arall, 25 oed, wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus.
“Mae’r ddau ddyn yn parhau yn nalfa’r heddlu.”
Mae'r heddlu'n apelio am dystion.