Dyn a dynes 36 oed wedi marw ar ôl i gar blymio i Afon Tawe

25/12/2022
Heol New Cut

Mae dyn a dynes 36 oed wedi marw ar ôl i'w car blymio i Afon Tawe yn ystod oriau mân bore diwrnod Nadolig. 

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw ychydig wedi 03:05 yn sgil adroddiadau bod car wedi mynd i Afon Tawe ger Heol New Cut. 

Dywedodd yr heddlu fod cyrff y dyn a'r fenyw wedi eu darganfod yn yr afon gerllaw car Mini John Cooper Works du. 

Mae teuluoedd y ddau fu farw yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Ychwanegodd yr heddlu bod swyddogion yn parhau yn yr ardal wrth i'r ymchwiliad barhau, ac mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200429694.

Llun: Google Streetview 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.