Y Brenin yn trafod yr argyfwng costau byw fel rhan o'i neges Nadolig
Mae'r Brenin Charles wedi defnyddio ei neges Nadolig i ganmol y bobl "hynod o garedig" sydd yn helpu eraill yn sgil yr argyfwng costau byw.
Dyma oedd y tro gyntaf i'r Brenin adrodd y neges draddodiadol wedi marwolaeth ei fam, y Frenhines, ym mis Medi.
Yn ystod y neges, bu'n talu teyrnged i'w fam cyn troi at yr argyfwng costau byw.
Fe wnaeth y Brenin sôn am y "pryder a chaledi aruthrol" mae nifer yn ei wynebu wrth geisio "talu eu biliau a chadw eu teuluoedd yn dwym."
Aeth Charles III ymlaen i ganmol yr unigolion, elusennau a grwpiau ffydd sydd yn darparu cefnogaeth i'r rhai mewn angen.
Wrth gloi'r neges, bu'r Brenin yn sôn am waith aelodau eraill y teulu brenhinol yn ystod y flwyddyn, gan gyfeirio at daith y Tywysog a Thywysoges Cymru i Abertawe ac Ynys Môn.
Yn gynharach, fe wnaeth y Brenin fynychu gwasanaeth eglwys traddodiadol Dydd Nadolig y teulu brenhinol am y tro cyntaf ers marwolaeth ei fam y Frenhines.
Cerddodd Charles a'r Frenhines Gydweddog y daith fer o Sandringham House i Eglwys y Santes Fair Magdalen.
Yn ymuno â nhw roedd Tywysog a Thywysoges Cymru a'u plant - y Tywysog George, naw, y Dywysoges Charlotte, saith, a'r Tywysog Louis, pedair oed, a gerddodd law yn llaw â Kate.
Hefyd yn y grŵp, a basiodd torf o gefnogwyr ar y ffordd i'r eglwys, oedd Dug Efrog.
Roedd Iarll ac Iarlles Wessex hefyd yn y grŵp.
Roedd Dug a Duges Sussex, sy'n byw yng Nghaliffornia, yn absennol.
Llun: PA