Newyddion S4C

Traddodiadau'r Nadolig: Hela'r Dryw

26/12/2022

Traddodiadau'r Nadolig: Hela'r Dryw

A hithau'n dymor y Nadolig, mae traddodiadau fel canu'r Plygain i'w gweld ar draws Cymru unwaith eto.

Ond mae un hen draddodiad wedi ei golli dros amser, a hwnnw oedd hela'r dryw.

Defod ar ffurf gorymdaith yn y gwledydd Celtaidd oedd y traddodiad, yn tarddu o ddefodau cyn-Gristnogol yn ymwneud â dathlu duw'r goleuni.

Ond mae mwy i'r traddodiad na hynny, a'r dryw bach oedd yn ganolbwynt i'r orymdaith honno.

Pwysigrwydd y dryw

Mae'r awdur Twm Elias yn dweud bod y dryw yn hynod o bwysig i draddodiad hela'r dryw, nid yn unig o ran ei ddefnydd yn y ddefod, ond am ei fod yn cael ei ystyried yn frenin ar yr holl adar hefyd.

"Ma'r dryw bach yn rhan hanfodol o hyn oherwydd fo oedd yn cael ei ystyried fel y lleia' o'r adar.

"Ac wrth gwrs fe ddaeth y lleia' o'r adar yn frenin yr adar."

Yn ôl traddodiad, fe wnaeth yr adar i gyd benderfynu pwy fyddai'n frenin, a hynny drwy weld pa un oedd yn gallu hedfan agosaf at yr haul.

Y dryw ddaeth yn fuddugol wrth iddo guddio yn adain yr eryr, a hedfan i'r brig pan nad oedd yr eryr yn gallu hedfan mwy.

Golyga hyn mai'r dryw oedd brenin yr adar, ac yn ennyn llawer o barch.

"Mi oedd yr hen ddryw yn cael parch mawr drw'r flwyddyn, ond adag y dyddia' byra' 'ma, mi oedd y dryw yn cael ei aberthu," adrodda Twm.

"A beth oedd yn digwydd oedd, mi oedd pobl yn mynd allan ac yn dal dryw bach ac yn ei ddal o."

Image
tŷ pren hela'r dryw
Roedd y dryw yn cael ei osod mewn tŷ pren a'i orymdeithio o gwmpas pentrefi.
Llun: Louvain Rees

"O'dd y dryw yn cael ei roi mewn tŷ dryw bach. Bocs bach pren lliwgar hefo pedair handlan a byddai'r dryw bach yn cael ei gario o dŷ i dŷ."

Canu, yfed a dawnsio

Wrth i'r dryw orymdeithio o gwmpas y pentref, byddai'r trigolion yn mwynhau trwy ganu, yfed a dawnsio gyda'i gilydd.

Roedden nhw'n adrodd penillion a mynd i dai ei gilydd, gyda'r orymdaith yn parhau hyd at oriau hwyr y nos.

Er nad yw'r traddodiad yn fyw bellach yng Nghymru, mae'n dal i ddigwydd yn Iwerddon.

Mae pobl yn parhau i wisgo gwisg draddodiadol ac yn gorymdeithio trwy bentrefi mewn rhai ardaloedd o'r wlad.

Image
Hela'r dryw yn Swydd Kerry
Gorymdaith hela'r dryw yn Sir Kerry.

Un o'r rhesymau nad yw hela'r dryw yn digwydd bellach yng Nghymru yw bod rheolau newydd yn bodoli dros warchod bywyd gwyllt.

Ond mae rhai gorymdeithiau'n cael eu hatgyfodi heddiw, gan ddefnyddio model o ddryw yn hytrach na'r aderyn ei hun, a hynny fel bod y traddodiad yn gallu parhau.

Lluniau: Sráid Eoin Wren

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.