Newyddion S4C

Yr enwogion fu farw yn 2022

30/12/2022
topper, dai jones, queen

Wrth i 2022 ddirwyn i ben, mae'n gyfle i gofio rhai o'r enwogion fu farw yn ystod y flwyddyn.

O wynebau cyfarwydd S4C i rai o sêr y byd cerddoriaeth, bydd Cymru a'r byd yn dlotach hebddynt.

Mis Ionawr

Meat Loaf

Bu farw'r canwr Meat Loaf yn 74 oed ar ôl gwerthu dros 65 miliwn record yn ystod ei yrfa.

Mis Chwefror

Aled Roberts

Roedd Aled Roberts yn Gomisiynydd y Gymraeg pan fu farw'n 59 oed.  Roedd hefyd wedi cynrychioli'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad rhwng 2011 a 2016.

Mis Mawrth

Dai Jones 'Llanilar'

Yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C, roedd Dai Jones 'Llanilar' yn gantor o fri ac yn gyflwynydd Cefn Gwlad am ddegawdau ac yn darlledu o'r Sioe Fawr yn Llanelwedd yn flynyddol.  Bu hefyd yn cyflwyno cyfresi megis Sion a Siân yn ystod ei yrfa.  Bu farw'n 78 oed ac fe gafodd ei anrhydeddu yn ystod Sioe Frenhinol 2022.

Image
Dai Jones Llanilar
Roedd Dai Jones "Llanilar" yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C.

Mis Ebrill

June Brown

Bu farw'r actores June Brown yn 95 oed ar ôl dod yn enwog am chwarae rhan Dot Cotton yn EastEnders.

Mis Mai 

Dyfrig 'Topper' Evans

Bu farw Dyfrig Evans oedd yn aelod o'r band Topper yn 43 oed.  Roedd yn actor dawnus, gan ddod i amlygrwydd fel aelod o gast gwreiddiol Rownd a Rownd yn ogystal ag ymddangos yn Tipyn o Stad, Gwlad yr Astra Gwyn a'r Gwyll (Hinterland).

Mis Mehefin

Phil Bennett

Bu farw'r cyn-chwaraewr rygbi Phil Bennett yn 73 oed yn dilyn cyfnod o salwch.  Roedd yn chware i Lanelli, Cymru a'r Llewod ac yn rhan o daith y Llewod yn Ne Affrica yn 1974.  Cafodd mainc ei dadorchuddio er cof amdano yn ei bentref genedigol, Felinfoel.

Mis Gorffennaf

Bernard Cribbins

Yn 93 oed bu farw'r actor Bernard Cribbins.  Roedd yn fwyaf adnabyddus am leisio cyfres The Wombles ac am chwarae rhan Wilfred Mott yng nghyfres Doctor Who sydd yn cael ei ffilmio yng Nghaerdydd.  Mae disgwyl iddo ddychwelyd i'r gyfres yn 2023 mewn golygfeydd a gafodd eu ffilmio cyn ei farwolaeth.

Mis Awst

Y Fonesig Olivia Newton-John

Bu farw'r Fonesig Olivia Newton-John yn 73 oed.  Roedd yn adnabyddus am ei rôl yn y ffilm Grease, ac er iddi gael ei magu yn Awstralia roedd ganddi gysylltiad â Chymru gan fod ei thad yn enedigol o Gaerdydd.

Mick Bates

Bu farw Mick Bates y cyn-aelod o'r Cynulliad yn 74 oed.  Fe gynrychiolodd Sir Drefaldwyn ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 1999 a 2011.

Image
Y Frenhines - Llun PA
Bu farw'r Frenhines Elizabeth II ym mis Medi gan ddod â theyrnasiad o 70 mlynedd i ben.

Mis Medi

Bill Turnbull

Roedd y newyddiadurwr a'r cyflwynydd Bill Turnbull yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno BBC Breakfast ac am ymddangos ar Strictly Come Dancing.  Bu farw yn 66 oed ar ôl cyfnod o salwch.

Y Frenhines Elizabeth II

Bu farw'r Frenhines Elizabeth II yn 96 oed ar 8 Medi, ddeuddydd yn unig ar ôl iddi benodi ei 15fed prif weinidog, Liz Truss yng Nghastell Balmoral.  Yn gynharach yn y flwyddyn, roedd Ei Mawrhydi y Frenhines wedi nodi 70 o flynyddoedd fel brenhines gan ddathlu ei Jiwbilî Platinwm.

Eddie Butler

Un o leisiau mwyaf eiconig y byd sylwebu rygbi oedd Eddie Butler a fu farw yn 65 oed.  Yn enedigol o Gasnewydd, roedd wedi sylwebu ar rai o gemau mwyaf cofiadwy Cymru.

Coolio

Bu farw Coolio yn 59 oed ar ddiwedd mis Medi.  Fe enillodd wobr Grammy am ei gân Gangsta's Paradise.

Mis Hydref

Y Fonesig Angela Lansbury

Yn fwyaf enwog am chwarae rhan Jessica Fletcher yn y gyfres Murder, She Wrote, bu farw'r Fonesig Angela Lansbury ym mis Hydref yn 96 oed.

Robbie Coltrane

Roedd yr actor Robbie Coltrane yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Hagrid yn y gyfres o ffilmiau Harry Potter.  Roedd yn 72 oed pan fu farw.

Mis Tachwedd

Doddie Weir

Bu farw cyn-chwaraewr rygbi'r Alban yn 52 oed ar ôl iddo fyw gyda Motor Neurone Disease (MND) am flynyddoedd ac ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

Mis Rhagfyr

Ruth Madoc

Roedd Ruth Madoc yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Gladys Pugh yn y gyfres gomedi o'r 1980au Hi-De-Hi! ac am ei dywediad "Hi-De-Hi, campers".  Roedd yr actores a gafodd ei magu yn Llansamlet yn Abertawe i fod ymddangos mewn pantomeim dros gyfnod y Nadolig pan fu farw'n sydyn yn 79 oed.

Pelé

Bu farw Pelé yn 82 oed ar 29 Rhagfyr ar ôl dros flwyddyn o fod â chanser y coluddyn.  Yn 1958, Pelé sgoriodd y gôl yn erbyn Cymru gan chwalu eu gobeithion o fynd ymhellach na rowndiau'r chwarteri.  Cafodd tridiau o alaru cenedlaethol eu cyhoeddi ym Mrasil yn dilyn ei farwolaeth.

Y Fonesig Vivienne Westwood

Roedd y Fonesig Vivienne Westwood yn 81 pan fu farw.  Roedd yn ddylunydd ffasiwn a agorodd pedair siop yn Llundain cyn i'w busnes ehangu ar draws Prydain, gan gynnwys Caerdydd.  Roedd y Fonesig Vivienne hefyd yn ymgyrchydd ar faterion gan gynnwys newid hinsawdd, hawliau sifil a diarfogi niwclear.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.