Newyddion S4C

Safiad Cymru fel gwlad ddi-niwclear yn ‘bwysig’

Safiad Cymru fel gwlad ddi-niwclear yn ‘bwysig’

NS4C 02/01/2023

Mae’n 40 mlynedd ers i Gymru gyhoeddi ei hun yn wlad ddi-niwclear – y wlad gyntaf yn Ewrop i wneud hynny.  Ac yn ôl un a oedd yno pan wnaeth y sir olaf ddatgan ei bod yn barth ddi-niwcelar, mi oedd o’n safiad ‘pwysig’.

Ers yn blentyn roedd Bini Jones o Flaenau Ffestiniog yn ymwybodol o’r bygythiad o ryfel niwclear.

“O’n i yn hogan ifanc ysgol gynradd ac yn gweld y cychod yn mynd am Ciwba ac yn cofio yr ofn fysa nhw ddim yn troi nôl, fysa na rhyfel niwclear.”

Fe ymunodd gyda CND yn ferch ifanc a byddai yn mynd i gyfarfodydd blynyddol y mudiad yn Sheffield gyda’i mam. Roedd ei mam yn weithgar yn ysgrifennu’r papur Heddwch, sef papur oedd yn cael ei gyhoeddi gan CND Cymru.

'Hanesyddol'

Mae gan Bini atgofion clir o fynd i Glwyd yn 1982 pan wnaeth y sir honno ddatgan ei hun yn barth di-niwclear. 

 “Dwi’n cofio’n iawn ar y steps ‘na, islaw bach o Theatr Clwyd ac odd hi’n bnawn braf a pawb wedi hel at ei gilydd. Odd o yn eitha hanesyddol oddan ni yn teimlo ac yn bwysig bod Cymru wedi datgan.” 

Rhaid i ni gofio mae Cymru efo’r ffwtbol a’r erchyll Covid ma, mae Cymru yn cael ei weld fel gwlad efo llais. Adeg hynny, doedd na’m lot o lais. ‘For Wales, see England’ oedd hi. Yn yr ystyr yna, odd o’n ticio y bocs yna, bod gennon ni llais.

“Faint o ddannadd oedd gan y llais? Oeddan ni fel ymgyrchwyr yn trio gwneud yn siwr bod na ddannadd de. Dyna pam oeddan ni yn rhoi ein hamser, i drio codi’r proffil o hyn a cael y wybodaeth allan.”

Dyma’r cyfnod pan oedd tensiynau yn uchel rhwng y gorllewin a’r dwyrain a’r bygythiad o ryfel niwclear yn teimlo yn real. Yn wyneb hynny y cafodd awdurdodau lleol drwy’r DU eu gorchymyn i lunio cynlluniau amddiffyn sifil oedd yn cynnwys sefydlu bynceri niwclear fyddai’n cael eu defnyddio fel canolfannau rheoli ar ôl rhyfel niwclear. Gwrthod hyn wnaeth pob un o siroedd Cymru a thrwy hynny ddatgan ei bod yn wlad ddi-niwclear. 

Yn yr un cyfnod roedd gwersyll wedi ei sefydlu ar comin Greenham. Fe ddechreuodd y gwersyll ar ôl i grŵp o ferched o Dde Cymru benderfynu protestio yn erbyn penderfyniad Llywodraeth y DU i osod arfau niwclear ar safle'r RAF yn Berkshire.  

“Oeddan ni yn gyrru cyfarchion iddyn nhw, cefnogaeth o’r gogledd ‘ma. Yn bersonol o’n i yn ffarmio ac yn magu plentyn fy hun efo mam. Odd mynd yn anodd i fi efo stoc a ballu. Ond odd o yn amlwg yn rhywbeth oeddan ni yn cefnogi ac yn gyffroes i feddwl.” 

Image
Jeremy Corbyn CND Cymru
Mae CND Cymru yn parhau i godi ymwybyddiaeth o ddiarfogi niwclear yng Nghymru, gan wahodd cyn-arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni.
Llun: CND Cymru

'I gyd efo'n gilydd'

Yn Rhagfyr 1982 fe aeth Bini fel miloedd o ferched eraill i Greenham i greu un gadwyn fawr o gwmpas y safle lle byddai’r taflegrau niwclear yn cael eu cadw. Fe ddaeth 30,000 o ferched yno.  

Roedd hi wedi penderfynu cysgu yn y gwersyll er mwyn cymryd rhan yn y brotest y diwrnod wedyn lle y byddai’r merched yn gorwedd ar y llawr wrth ymyl giatiau'r safle RAF. 

“Odd y nos yn reit ddychrynllyd yn y ffordd oedd na lot o golau, sŵn. Dwi’m yn gwybod os oedd na helicopters. A dwi’n cofio’r cŵn yn udo. Hwnna yn dychryn fi de.”  

“Oedd na ryw deimlad o codi ofn. Ond oddan ni i gyd efo’n gilydd, gweiddi ar y genod erill, ‘Ia ‘da ni yn oce, ‘da ni mynd i aros efo ein gilydd,…’da ni yn saff.’ Ac oeddan ni wedi trafod lot ar y non-violent direct action de, ddim bod yn fygythiol o gwbl. Os oedd rhywun yn trio ein bygwth ni, bod ni jest yn trio trafod.” 

 Wrth ddweud bod nifer yn gwybod am hanes y suffragettes nid dyma yw’r sefyllfa meddai am hanes Comin Greenham.  

'Symbolaidd'

Ond mae’n falch ei bod hi wedi cefnogi’r menywod drwy’r blynyddoedd a thrwy fynd yno.  

“Rhywsut gafon ni ffasiwn gefnogaeth trwy’r byd i gyd. Oedd o yn symbolaidd doedd. Merched yn ista a canu ac ddim yn ffraeo nôl. Odd hwnna wedi mynd rownd y byd a’r images ‘na ohona ni yn y blockades.” 

Yn niwedd yr 80au fe aeth yr arfau niwclear o’r safle. Mae Bini yn bendant bod y protestio wedi cael effaith ond bod hi’n anodd gwybod faint.  

Mae’n teimlo bod yna dal le i fudiad CND heddiw a rôl gan fenywod i’w chwarae.

“Dwi’n meddwl..bod codi proffil heddwch yn y byd sydd gennon ni heddiw a bod ni gyd yn meddwl sut fath o byd da ni isio, sut fath o byd da ni isio i’n plant a dylanwad sydd gan ferched ar hwnna yn powerful dydy.” 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.