
Y canwr Wynne Evans yn aduno efo’i deulu yng Ngwlad Belg
Y canwr Wynne Evans yn aduno efo’i deulu yng Ngwlad Belg
“Mae yn stori drist achos mi oedd mam dros fy mywyd yn stryglo jest i ffitio mewn."
Roedd mam y canwr adnabyddus Wynne Evans yn blentyn siawns. Cafodd ei chenhedlu ar ôl i’w mam hithau ddisgyn mewn cariad gyda milwr priod o wlad Belg.
Dechreuodd y garwriaeth tra roedd Louis Gentil yng Nghymru yn ystod yr ail ryfel byd.
Mewn rhifyn arbennig o ‘Gwesty Aduniad’ ar S4C ar Noswyl y Nadolig mae Wynne yn dod i wybod mwy am y teulu yng ngwlad Belg.
Fe aeth Louis yn ôl i’w famwlad ac yn ôl at ei deulu. Mewn amser fe briododd mam-gu Wynne ond wnaeth ei gŵr erioed dderbyn ei merch, Elizabeth Evans. Fe effeithiodd y sefyllfa yn fawr ar ei fam meddai Wynne:
“Mam wedi marw ugain mlwyddyn yn ôl nawr. Troubled person, jest oherwydd dad hi. Jest abandoned. A nawr mae’n amser jest to mend those wounds.”
Yn ystod y rhaglen mae’n teithio i Frwsel i gyfarfod aelodau o'i deulu.
“Dwi’n meddwl yn fy nghalon dwi’n bod yma am fy mam achos mae hi eisiau bod yn rhan o’r teulu a nawr mae’r teulu yn un unwaith eto," meddai.
“Efallai mae llawer o problemau teulu gwlad Belg yn y gorffennol ond mae’n pwysig nawr gadael y gorffennol a canolbwyntio ar y dyfodol."

'Argraff fawr'
Yn ogystal â stori Wynne, yn y rhaglen hefyd mae’r actores Gillian Elisa yn cyfarfod â’r plismon wnaeth ei hachub wedi damwain car bum mlynedd yn ôl. Roedd yn rhaid ei thorri allan o’r car ac fe gafodd ei chi bach ei ladd.
“O’n i yn dod 'nôl o Lundain wedi bod yn ffilmio. O’n i yn dreifio yn hwyr yn y nos ac yn sydyn iawn, wham. O’n i yn pwyso’r clutch lawr a’r brêc i drial stopio’r car. O'dd y car wedi mynd mas o reolaeth. O'dd bws wedi mynd mewn i gefn y car.”
Mae’n dweud bod y plismon, Jay Clifton, wedi siarad gyda hi tra roedd hi’n sownd yn ei char.
“O'dd e’n wych yn cadw fi i fynd. Jest siarad i gadw ti i fynd, yn lle bo ti yn mynd off a panico. O'dd e 'di creu argraff mawr arno fi.”
Roedd hi’n teimlo yn gyfrifol am farwolaeth ei chi ac mae’n dweud i’r golled effeithio arni am fisoedd wedyn.
Mae’n sylweddoli rŵan pa mor frau yw bywyd. “Fi’n gwerthfawrogi bywyd mwy. Fi yn ddiolchgar bo fi dal yn fyw. Fi’n lwcus bo fi dal yn fyw i fod yn onest.”
'Gymaint o ofn'
Un arall sydd yn cwrdd â rhywun nad ydy o wedi ei weld ers blynyddoedd yw’r canwr theatrau a’r actor Mark Evans. Mae’n cyfarfod â’i gariad cyntaf yn ystod y rhaglen. Fe wnaeth ei gariad ar y pryd roi’r hyder iddo ddweud wrth ei fam ei fod yn hoyw.
“Na'th hi jest crio, rili ofnadwy crio. O'dd gen hi gymaint o ofn achos y cwbl o'dd hi 'di clywed am bobl hoyw ar y pryd yna oedd Aids, HIV, Aids, bywyd caled, rili, rili anodd, petha' rili, rili ofnadwy. Ac o'dd mam jest yn concerned iddo fi bod fi ddim yn mynd i fod yn saff.”
Yn ystod y rhaglen hefyd mae ffoaduriaid o’r Wcráin sydd yn byw yng Nghymru yn dod at ei gilydd am ddathliad Nadoligaidd Wcrainaidd.
Yn eu plith mae brawd a chwaer, y chwaer wedi cael cartref yn yr Alban a’r brawd wedi ymgartrefu ym Mangor.
Bydd Gwesty Aduniad yn cael ei ddarlledu ar S4C am 21:00 ar Noswyl y Nadolig.