Cwpan y Byd: Ai'r Ariannin neu Ffrainc fydd yn fuddugol?
Cwpan y Byd: Ai'r Ariannin neu Ffrainc fydd yn fuddugol?
Bydd gêm bêl-droed fwyaf tyngedfennol y flwyddyn yn cael ei chynnal ddydd Sul wrth i'r Ariannin a Ffrainc fynd benben â'i gilydd am deitl pencampwyr Cwpan y Byd 2022.
Roedd y ddau dîm wedi cael perfformiadau cymysg yn eu grŵp, gyda Ffrainc yn colli o 1-0 yn erbyn Tunisia a'r Ariannin yn methu â churo Saudi Arabia.
Yn wir, agos iawn oedd diwedd siwrnai'r Ariannin yn rowndiau'r chwarteri gan orfod dibynnu ar fuddugoliaeth yn y ciciau o'r smotyn ar ôl gêm gyfartal o 2-2.
Ond a fydd yna ddathlu ym Mhatagonia wedi buddugoliaeth i'r Ariannin, neu ai'r pencampwyr presennol Les Bleus fydd yn mynd â hi?
'Ymfalchïo'
Mae Billy Hughes yn byw yn Y Gaiman ym Mhatagonia, ac mae wedi bod yn dilyn pob gêm y mae'r Ariannin wedi ei chwarae ar y radio.
"I gymharu â'r gêm gynta' ni'n methu credu bod 'dan ni wedi cyrraedd mor bell," meddai.
"Ma' pawb yn ymfalchïo o'r tîm sy' gynnon ni, sy'n gweithio fel tîm.
"Gwrando i'r gêm ar y radio, dyna fydda i'n 'neud, os dwi efo rhywun arall yn gweld ar y teledu fi'n mynd yn rhy nerfus, a well gen i 'neud e fel 'na, maté, tawel a radio a fi.
"Ma' pawb yn meddwl fama yn y wlad ac yn y byd bod Messi yn ei orau, yn ei amser gorau, er bod o 'di bod yn chwaraewr brilliant ar hyd yr amser.
"Beth bynnag, fydd yn gêm andros o ddiddorol i weld o ran ffwtbol, i bobol sydd yn edrych o allan bydd yn andros o gêm neis i weld. I ni fydd o'n 90 munud nerfus iawn."
'Cryf'
Mae Rhian Hutchings yn byw yn Ffrainc ac wedi bod yn dilyn y bencampwriaeth o'r wlad wrth i gefnogwyr obeithio cadw'r teitl yng nghysgod y Tŵr Eiffel am bencampwriaeth arall.
"Ma' bob oedran o'r plant ifanca' i'r oedolion, ma' pawb yn teimlo'r un cyffro, yr un balchder i fod yn Ffrangeg ar y foment a'r un gobaith ar gyfer y canlyniad ma' pawb moyn," meddai.
"Ma'r prif deitlau ar y papurau newyddion 'di mynd o shwt ma' Ffrainc wedi bod mor dda dros y blynyddoedd ac yn ara' bach nawr ma' fe'n dechrau dod yn shwt ma' nhw'n mynd i ennill.
"Ma' fe braidd yn od bod e'n digwydd yn y gaeaf achos fel arfer bydde lot o ddathliadau ar y strydoedd, ond blwyddyn hyn yn amlwg ma' fe'n oer ond sai'n credu bydd hwnna'n stopo pobol i ddathlu, fi'n credu bydd lot o bartis 'mlaen.
"Fi wedi bod yn dilyn, trial dilyn, a fi'n credu bod y ffordd ma' nhw'n chwarae i gymharu â timoedd eraill, dwi'n credu bo nhw'n edrych yn gryf."