Newyddion S4C

Llo yn marw ar ôl i'w fam orfod mynd i ladd-dy gyda'r Diciâu

Llo yn marw ar ôl i'w fam orfod mynd i ladd-dy gyda'r Diciâu

Mae ffermwr wedi colli llo ar ôl i'w fam orfod mynd i ladd-dy ar ôl cael prawf positif am y Diciâu.

Bu farw un o loi Carwyn Roberts oherwydd nad oedd yn gallu cael llaeth gan ei fam.

Er bod gan un o wartheg Carwyn Roberts y Diciâu fe roddodd enedigaeth i lo ar ôl cael y prawf.  Ond, yr wythnos wedyn bu’n rhaid mynd â’r fuwch i’r lladd-dy.

"O'dd y mam di mynd i cael ei lladd, 'ma hi 'di dod nôl yn glir, fel ma’ nhw gyd wedi yn fama.

"O'n i 'di bod yn trio rhoi llaeth i'r llo bore a nos, ond do'dd o'm yn dod, ac yn anffodus ma'r llo wedi pasio erbyn hyn."

Mae Carwyn yn falch iawn o'i wartheg, enillodd wobr gyntaf gydag un ohonynt, ond mae rheolau newydd ar y Diciâu yn gwneud pethau'n anodd iddo.

Nid Carwyn ydy'r ffermwr cyntaf i rannu ei deimladau ar y cyfryngau cymdeithasol, ond dywed ei fod wedi cyrraedd pen ei dennyn, oherwydd canllawiau caeth rheoli'r Diciâu mewn gwartheg.

"'Dy pobl sy'n gwneud y rheolau, dim ots 'da nhw amdan fi na'r anifeiliaid yn fama dwi'm yn meddwl," meddai.

"As long as ma' nhw'n ticio few boxes."

Ers i'r Diciâu gyrraedd y fferm yng Nghonwy, mae 25 o wartheg wedi eu difa.  Mae’r fuches o 200 yn gorfod cael eu profi yn gyson.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y gall y Diciâu gael effaith ddifrifol ar ffermwyr, ond mae camau mawr wedi’u cymryd i’w ddileu.

Mae’r prawf croen wedi profi’n ddull dibynadwy o sgrinio, a thros gyfnod o 13 mlynedd mae nifer yr achosion newydd o'r Diciâu wedi haneru.

Mae fferm Carwyn wedi bod o dan gyfyngiadau'r Diciâu ers Chwefror 2021, ac mae'n dweud nad yw'n disgwyl bod allan o’r cyfyngiadau yna tan o leiaf mis Mai'r flwyddyn nesaf. Mae yna golledion ariannol, ond hefyd mae pwysau emosiynol aruthrol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.