
'Dwi'n anweledig - yn estron': Gwasanaethau'r digartref yn wynebu 'storm berffaith'
Mae Michael yn un o nifer yng Nghaerdydd sydd ddim yn gwybod lle y bydd yn cysgu o un noson i'r llall dros y Nadolig.
Tra bod rhai wedi bod yn heidio i'r brifddinas i siopa am anrhegion dros yr wythnosau diwethaf, mae eraill yn wynebu Nadolig anodd ar y stryd.
Gydag effeithiau’r argyfwng costau byw yn dwysau, mae elusennau yn rhybuddio y gallai mwy a mwy o bobl golli eu cartrefi dros y misoedd nesaf.
Yn ôl Michael, mae’r nifer o bobl ddigartref sydd i’w gweld ar strydoedd Caerdydd eisoes wedi cynyddu.
“Mae 'na fwy a mwy ohonom ni mas ma,” meddai.
“Mae wedi dod mor anodd i ffeindio llety mewn hostel. Mae 'na gymaint mwy o bobl.”
'Dim teulu, dim ffrindiau'
Mae Michael wedi bod yn ddigartref ers chwe blynedd.
Fe wnaeth ei fam farw tra'r oedd yn y carchar. Pan gafodd ei ryddhau ym mis Mawrth 2016, doedd ganddo nunlle i fynd.
Ers hynny, mae wedi dibynnu ar lety dros dro ac yn aml wedi gorfod cysgu ar y strydoedd.
Yn ôl Michael, mae’r gaeaf eleni wedi bod yn anoddach nag erioed gyda phobl yn llai hael.
“Maen nhw gyd jyst yn cerdded heibio ni, neb yn becso dim," meddai.
“Dwi'n meddwl oherwydd yr argyfwng costau byw, mae pobl yn llai tebygol o roi i bobl eraill.
“Mae rhai pobl dal yn prynu bwyd i chi, ond prin iawn yw'r bobl sydd yn rhoi arian i chi dyddiau yma.
"Mae mor anodd heb unrhyw deulu, heb unrhyw ffrindiau, mae rhaid i fi gymryd pob dydd fel y mae'n dod."
Yn ôl yr elusen ddigartrefedd Huggard, sydd yn rhedeg dwy hostel yng Nghaerdydd, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl yr elusen mae nifer y bobl sydd yn gofyn am help wedi cynyddu 20% ers dechrau'r flwyddyn.
Maent yn dweud bod hi'n anoddach i gasglu rhoddion er mwyn cynnal y gwasanaethau am fod yr esgid yn gwasgu.
"Mae gwasanaethau digartefedd yn wynebu storm berffaith o effeithiau personol a chymdeithasol y pandemig, sef effaith yr argyfwng costau byw a phwysau cynyddol ar ofal cymdeithasol," meddai'r prif weithredwr, Richard Edwards.
"Rydym yn deall bod nifer sydd yn cefnogi'r elusen hefyd yn ei gweld hi'n anodd yn ariannol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion yn ystod y cyfnod anodd yma."
'Diffyg ysbryd Nadoligaidd'
Un arall sy'n dweud ei fod yn wynebu Nadolig anodd yw Marc.
Roedd Marc yn gweithio yn y ffair ym Mhorthcawl cyn iddo golli ei swydd.
Doedd ganddo ddim cartref ar y pryd. Roedd yn treulio'r nosweithiau yn cysgu mewn pabell neu garafan. Weithiau roedd yn rhaid iddo gysgu mewn eglwys leol.
“Dwi heb newid fy nillad mewn pedwar mis. Mae'n rhaid i fi newid, dwi’n drewi.
“Mae gennai broblemau iechyd fyd – hernia, meigryn, llid y cylla – maen nhw i gyd wedi gwaethygu,” meddai.
Ers dros 10 wythnos mae Marc wedi bod ar y rhestr aros am lety dros dro. Ei obaith yw y bydd ganddo do uwch ei ben erbyn y flwyddyn newydd.
Mae'n dweud ei fod yn anodd i bobl ddigartref yn ystod cyfnod y Nadolig.
“Mae rhan fwyaf o bobl yn anwybyddu fi. Dwi’n anweledig, yn estron.”
“Os ydyn nhw eisiau rhoi (arian) maen nhw i gyd yn gallu rhoi, ond dwi'n meddwl bod lot yn meddwl bod nhw’n well na ni.
“Dwi'n meddwl bod yna ddiffyg ysbryd Nadoligaidd. Bah humbug.”