'Yr unig beth y mae ceiswyr lloches eisiau ydy i fod yn ddiogel'
'Yr unig beth y mae ceiswyr lloches eisiau ydy i fod yn ddiogel'
Yr unig beth mae ceiswyr lloches eisiau ydy i "fod yn ddiogel".
Dyna eiriau Helen Moseley, sy'n gweithio fel Swyddog Integreiddio yng nghanolfan Oasis yng Nghaerdydd.
Mae Oasis yn cynnig croeso i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ac yn cynnig dihangfa o anawsterau bywyd bob dydd i'r rhai sydd yn ceisio am loches.
Mae mwy na 40,000 o bobl wedi croesi'r Sianel mewn cychod bach eleni, sef y ffigwr uchaf ers i ffigyrau ddechrau cael eu cofnodi yn 2018.
Ddydd Mercher, bu farw pedwar person ar ôl i gwch o fudwyr suddo yn y Sianel.
'Pobl yn cerdded i'r môr'
Ychydig dros bythefnos yn ôl, fe deithiodd Helen i Calais a phrofi golygfeydd dychrynllyd, meddai.
"Pan o’n i yna bythefnos yn ôl, fe welais i tua 200 o pobl jyst yn cerdded i’r môr, siŵr o fod oeddan nhw wedi cael galwad i ddod yn syth achos oedd y môr, oedden nhw’n dweud oedd e’n noson dda i groesi a roedd yn llawn niwl so oedd yr heddlu ddim yn gallu gweld yn rhy dda, ond oedd cannoedd o nhw yn mynd ac yn croesi."
Dywedodd Swyddog Integreiddio arall y ganolfan, Kirran Lochhead-Strang, nad yw'r drasiedi yn rhywbeth anghyffredin.
"Mae'n hawdd iawn edrych a dweud oce iawn, ma' 'na bedwar person wedi marw yn y Sianel nawr ond faint o bobl hefyd sydd wedi marw yn y Sahara neu yn y Mediterranean ar yr un siwrne.
"Mae'n hawdd iawn edrych ar jyst y broblem yma rhwng Ffrainc a fan hyn ond wrth gwrs, ma' hwn yn rhan o'r broses sy'n cychwyn yn bell bell i ffwrdd," meddai Kirran.
Cyfreithiau newydd
Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi addo cyflwyno cyfreithiau newydd i atal mewnfudo anghyfreithlon.
Bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ydy cyflogi rhagor o weithwyr, buddsoddi rhagor o arian a lleoli swyddogion yn Albania er mwyn mynd i'r afael â'r rhestr hir o geiswyr lloches erbyn diwedd 2023.
Cyhoeddodd Mr Sunak hefyd y byddai mudwyr yn derbyn lloches mewn hen ganolfannau gwyliau, cyn-neuaddau i fyfyrwyr a chanolfannau milwrol gwag yn hytrach na gwestai.
Ond yn ôl Kirran, y ffordd i daclo'r broblem ydi i "greu ffyrdd all bobl ddod mewn yn gyfreithlon" i'r wlad.
"Os ma' pobl wir yn teimlo bod gymaint o angen dod i fan hyn neu dod i rhywle saff neu rhywle allwn nhw fyw a chael bywyd gwell, wel ma' rhaid creu ffyrdd i nhw wneud hynny," ychwanegodd.
"Os mae pobl yn fodlon mynd ar gychau bach ar y Mediterranean ac ar draws y Sianel ac aros am wythnosau neu misoedd yn Calais neu yn Dunkirk mewn sefyllfaoedd peryglus iawn, ma' rhaid dod at ryw ffordd sy'n saff ac yn gyfreithlon."
'Jyst isie bod yn saff'
Yn ôl Helen, yr unig beth mae ceiswyr lloches eisiau ydy "bod yn saff".
"Ma’ nhw jyst isie lle i fod yn saff achos ffordd mae nhw’n byw yn Calais, maen nhw ddim yn byw achos ‘dyn nhw ddim yn gallu cysgu.
"Ma’ rhaid i nhw fod yn ofalus achos mae lot o’r smugglers o gwmpas a mae’n lle anodd i nhw fyw a ma' rhai o nhw, yn enwedig y rhai ifanc ddim yn gwybod be' mae fel i groesi’r dŵr 'ma a beth sy’n mynd i ddigwydd."
Mae Hiwa yn ffoadur sy'n ymweld ag Oasis yn ddyddiol, a dywedodd fod y ganolfan yn "anhygoel".
"Mae Oasis yn grêt, maen nhw'n helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid drwy ddarparu prydau cynnes, dosbarthiadau Saesneg, maen nhw'n helpu pobl i ddod o hyd i feddygon teulu, llenwi ffurflenni - mae o'n helpu lot."