Elin Fflur yn cyhoeddi genedigaeth ei merch
Elin Fflur yn cyhoeddi genedigaeth ei merch
Mae’r gantores a'r gyflwynwraig Elin Fflur wedi cyhoeddi genedigaeth ei merch.
Wrth siarad ar raglen Heno nos Fercher, cyhoeddodd Elin mai Ani Menai yw enw'r ferch fach, ac ei bod hi wedi cyrraedd y byd ychydig dros bythefnos yn ôl.
"Ma' hi'n berffaith, o'dd hi'n saith pwys 10 owns yn cael ei geni, ma' hi'n tyfu flat out ac yndi, ma' hi'r presant ‘Dolig gora' yn y byd," meddai.
Cyhoeddodd Elin ym mis Medi ei bod yn feichiog wedi iddi fod drwy IVF am 10 mlynedd.
Llongyfarchiadau Elin a Jason ar enedigaeth Ani Menai.
— Heno 🏴 (@HenoS4C) December 14, 2022
Ma hi’n bictiwr 🥹@elinfflur pic.twitter.com/A0kyQuU1xL
Yn 2018, fe wnaeth Elin Fflur rannu ei siwrnai o geisio am fabi drwy IVF gyda gwylwyr S4C mewn rhaglen ddogfen arbennig, ‘Chdi, Fi, ac IVF’.
"Ma'i 'di bod yn gyfnod mor emosiynol, o'n i'n crio'r holl ffordd adra o'r 'sbyty methu cweit credu'n lwc ni bod o 'di digwydd o'r diwadd ond 'dan ni jyst yn mwynhau pob eiliad o'i chael hi felly ein gwyrth bach ni ydi hi.”