'Prosesau mewn lle i sicrhau bod Plaid Cymru yn gwneud yn well'

'Prosesau mewn lle i sicrhau bod Plaid Cymru yn gwneud yn well'
Mae'r Aelod o'r Senedd, Sioned Williams, wedi dweud bod "prosesau mewn lle" i sicrhau bod Plaid Cymru yn "gwneud yn well" yn sgil honiadau o awyrgylch 'tocsig' o fewn y blaid.
Fis diwethaf, cafodd arbenigwyr adnoddau dynol allanol eu penodi gan Blaid Cymru i gynorthwyo'r ymchwiliad i honiadau o fewn y blaid.
Daw hyn wedi i'r Aelod o'r Senedd, Rhys ab Owen, gael ei wahardd o'r grŵp seneddol yn dilyn honiadau ei fod wedi torri cod ymddygiad ASau.
Mae yna hefyd adroddiadau bod uwch aelod o staff y blaid yn wynebu honiad o ymosodiad rhyw.
Mewn ymateb i'r honiadau o ddiwylliant gwenwynig o fewn Plaid Cymru, dywedodd Ms Williams ei bod yn "ffyddiog" bod systemau mewn lle i sicrhau bod y blaid yn gwella.
"Chi'n neud y gorau chi'n gallu nes bo chi'n gwybod yn well, a phan rydych chi'n gwybod yn well chi'n neud yn well," meddai.
"Dwi’n ffyddiog bod y prosesau sydd mewn lle yn mynd i sicrhau bod y blaid yn gwneud yn well, a bo ni'n neud y gorau dros ein holl staff a'n holl aelodau ni."
"Mae'n amlwg bod angen i ni neud yn siŵr bod e'n weithle diogel bod e'n weithle parchus..dwi'n ffyddiog bod y prosesau cadarn sydd wedi'u rhoi mewn lle yn mynd i sicrhau hynny."