Cyhuddo pedwar unigolyn wedi protest mewn ffatri ym Mhowys
Mae pedwar person a gafodd eu harestio yn dilyn byrgleriaeth honedig ym Mhowys ddydd Gwener wedi eu cyhuddo.
Mae'r pedwar wedi eu cyhuddo o gynllwynio i achosi difrod a chynllwynio i ladrata.
Fe fydd Susan Bagshaw, 65 oed o Glawdd Helyg, Commins Coch, Morwenna Grey, 41 oed o Stryd Penrallt, Machynlleth, Ruth Hogg, 39 oed o Ffordd Stanley, Aberystwyth a Tristan Dixon, 34 oed o Osprey Drive, Netherton, Huddersfield yn Swydd Efrog yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Y Trallwng ddydd Llun.
Cafodd swyddogion o Heddlu Dyfed Powys eu galw i Barc Busnes Broadaxe yn Llanandras am tua 06:35 ddydd Gwener yn dilyn adroddiadau o fyrgleriaeth.
Fe ddaeth yr heddlu i ddeall yn ddiweddarach bod yr unigolion yn rhan o brotest mewn ffatri yn y parc busnes.