Newyddion S4C

Atgyfodi hen gyfresi teledu yn gam ‘nôl i’r gorffennol’

01/01/2023
Sam ar y Sgrin

Mae atgyfodi hen gyfresi teledu yn gam “nôl i’r gorffennol”, yn ôl cyflwynydd blaenllaw.

Mae Aled Samuel yn wyneb cyfarwydd ar y sgrîn ac yn gyn-gyflwynydd ar Sam ar y Sgrîn a oedd yn adolygu ystod o gyfresi teledu.

Ond gyda nifer o gyfresi yn cael eu hatgyfodi yn y blynyddoedd diwethaf, a mwy i ddod yn y flwyddyn newydd, mae Aled Samuel yn teimlo bod angen arbrofi gyda fformatiau a chyfresi newydd. 

“Wi ddim yn siŵr os ‘yf fi’n cytuno gydag atgyfodi cyfresi cymaint, wedi dweud bo fi wedi hoffi STAD yn fawr iawn, achos ‘yt ti’n mynd ‘nôl at y gorffennol,” meddai.  

“Fi wastad yn meddwl ddylen ni fod yn treial ‘neud pethe newydd.”

'Come Dine With Me ar daith gerdded'

Llais Aled Samuel, neu Aled Sam fel mae’n cael ei adnabod gan nifer, sydd i’w glywed ar gyfres Am Dro, fformat gymharol newydd i S4C.

“Ar ddechrau’r cyfnod clo fe ddanfonodd Geraint Rowlands, cynhyrchydd Am Dro fformat Am Dro ata i a wedes i, ‘Beth yw e te Geraint?’ a wedodd e, ‘Os wedai ‘tho ti bod e fel Come Dine With Me ar daith gerdded ‘na’r agosa’ allai ddisgrifio fe.

“Edryches i ar y funud cynta, doedd dim rhaid fi edrych ar y pum munud cynta’, a o’n i’n meddwl ma’ hwnna’n wych,” ychwanegodd. 

“A dyna beth yw’r diléit mewn gwirionedd pan wyt ti’n edrych ar rywbeth ar y teledu.‘Yt ti’n meddwl falle bo hwn yn ddiddorol neu falle bod e ddim. Wyt ti ddim yn gwybod tan iste lawr i edrych arno fe.”

Image
Waterloo Road
Mae Waterloo Road yn dychwelyd i'r sgrin fach ar 3 Ionawr ar ôl saib o bron i wyth mlynedd.  [Llun: BBC]

'Marchnad gul iawn'

Mae cyfresi fel Blankety Blank, The Weakest Link a Who Wants to be a Millionaire wedi eu hatgyfodi yn y blynyddoedd diwethaf.

Ar ddechrau’r flwyddyn newydd, fe fydd y ddrama Waterloo Road yn dychwelyd ar BBC One gyda chyfres realaidd Big Brother yn cael ei hatgyfodi gan ITV 2.

Ac ar ôl dod i ben y llynedd, bydd yr opera sebon Neighbours yn cael ei hatgyfodi yn 2023.

“Marchnad gul iawn sydd ar gyfer dod â cyfresi fel ‘na yn ôl achos bach iawn o bobl sydd yn cofio nhw erbyn hyn,” meddai. 

“Ma’ Blankety Blank yn mynd 'nôl siŵr o fod 40 mlynedd falle?

“Os taw’r gobaith yw bo nhw mynd i ennill cynulleidfa newydd, fi’n credu tila iawn i’r posibilrwydd o hynny achos ma’ nhw’n perthyn i’w cyfnod.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.