15 o blant wedi marw o Strep A yn y DU ers mis Medi
Mae 15 o blant wedi marw yn y DU o'r clefyd prin Strep A ers mis Medi yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Yn ôl data gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), mae 13 o blant o dan 15 oed wedi marw o'r haint yn Lloegr. Mae dwy farwolaeth arall wedi'u cofnodi ym Melfast a Phenarth.
Mae cynnydd wedi bod yn ddiweddar yn y nifer o achosion o afiechydon sydd yn gysylltiedig â'r bacteiria Streptococol Grŵp A, sydd yn achosi nifer o wahanol o heintiau fel impetigo a'r dwymyn goch.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), mae'r nifer o achosion o'r dwymyn goch sydd wedi'u cofnodi yng Nghymru bron 60% yn uwch eleni o gymharu â 2019.
Fel arfer, nid yw'r afiechydon yma yn achosi symptomau difrifol iawn ac mae modd eu trin gyda gwrthfiotigau.
Yn ddiweddar, mae pryder wedi bod dros nifer o achosion difrifol o'r clefyd prin Streptococol Grŵp Ac ymledol (iGAS), neu Strep A, sydd wedi achosi marwolaethau ymysg plant ifanc.
Yn ôl yr UKHSA, mae'r cynnydd yma wedi'i achosi wrth i blant gymysgu'n fwy wedi i gyfyngiadau Covid gael eu llacio, gan alluogi bacteria i ledaenu'n haws.
Er gwaethaf y pryder dros achosion o Strep A, mae asiantaethau iechyd, gan gynnwys yr UKHSA a ICC, wedi atgoffa rhieni bod y risg o ddal y clefyd prin yn parhau yn isel.
Dywedodd Dr Colin Brown, dirprwy cyfarwyddwr yr UKHSA, fod achosion o Strep A yn parhau i fod yn "anghyffredin."
"Prin iawn y bydd y bacteria yn cyrraedd llif y gwaed ac yn achosi'r afiechyd mwy difrifol," meddai.
"Rydym yn gwybod bod hyn yn bryderus i rieni, ond rydw i eisiau pwysleisio, er ein bod yn gweld cynnydd mewn achosion ymysg plant, mae hyn yn parhau yn anghyffredin iawn.
"Mae yna lwyth o afiechydon gaeafol sydd yn lledaenu sydd yn gallu gwneud eich plant yn sâl ac ar y cyfan nid oes rhaid pryderu."
Fe wnaeth Dr Graham Brown, ymgynghorydd mewn rheolaeth clefydau trosglwyddadwy ar gyfer ICC, hefyd ddweud bod y risg yn isel.
"Er bod iGAS yn gyflwr pryderus, fe fydd rhan fwyaf o blant yn gwella gyda'r driniaeth iawn.
"Y peth gorau all rhieni ei wneud ydy darparu gofal fel sydd yn arferol ar gyfer plentyn gyda symptomau annwyd neu'r ffliw ond i fod yn ymwybodol o symptomau'r dwymyn goch ac iGAS."