Gwrthwynebiad i drosglwyddo Neuadd Dewi Sant i ddwylo cwmni preifat

Gwrthwynebiad i drosglwyddo Neuadd Dewi Sant i ddwylo cwmni preifat
Mae dros 20,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i wrthwynebu cynllun Cyngor Caerdydd i drosglwyddo cyfrifoldeb am Neuadd Dewi Sant i gwmni preifat.
Bydd cyfarfod arbennig o’r cyngor yn cael ei gynnal ddydd Gwener i ystyried cytundeb fyddai'n arwain at fuddsoddi yn nyfodol y Neuadd Gyngerdd Genedlaethol, ac yn arbed miliynau o bunnoedd i'r trethdalwyr medd yr awdurdod lleol.
Ond mae rhai unigolion fel y delynores adnabyddus Catrin Finch yn pryderu am ddyfodol cerddoriaeth glasurol yn y brifddinas.
Dywedodd wrth raglen Newyddion s4c: “Bydd o'n travesty bydd os 'da ni'n colli'r neuadd. A bod o jyst yn rhyw fath o le mawr arall, rhyw fath o warehouse ble maen nhw'n rhoi'r gigs 'ma ymlaen. Mae 'na lefydd o gwmpas am hynny yn barod. Dim ond un, y neuadd yma, sydd ar ôl.
"Dwi'n meddwl bod o mor bwysig bod ni'n gweld y llun mawr, a bod ni'n trysori'r lle a neud yn siŵr bod 'na wir dyfodol i gerddoriaeth o bob math ar y llwyfan yn Neuadd Dewi Sant.”
Dadl Cyngor Caerdydd yw nad yw’r neuadd fel ag y mae yn gynaliadwy na'n fforddiadwy a bod rhaid cael canolfan sy’n fwy hyblyg i'r dyfodol.
Un opsiwn sy’n cael ei ystyried ydy rhentu’r neuadd i’r busnes Academy Music Group.
Cynnal Cyngherddau Pop a Roc yw busnes Academy Music Group ac mae'n gwmni sydd gyda chanolfannau ar draws Lloegr a'r Alban.
Mae'r cwmni'n cynnig rhentu'r neuadd am gyfnod hir ac maen nhw'n addo buddsoddi a moderneiddio’n eang gan gynnwys gosod seddi newydd all gael eu symud i greu gofod, gwaith cynnal a chadw, a chadw'r staff presennol - heb gost i'r trethdalwyr.
O dderbyn eu cynnig fe fyddai 60 diwrnod y flwyddyn yn cael eu neilltuo ar gyfer cyngherddau clasurol yn y neuadd.
Pryder y cyfeilydd Owain Arwel Hughes yw y gallai'r datblygiad newydd niweidio sain arbennig y neuadd.
“Mae pawb yn y byd rŵan yn gwybod am Neuadd Dewi Sant. Mae’n un o'r 10 gorau yn y byd ar gyfer acoustics, mae hwnna'n peth aruthrol. Mae pawb sydd yn dod i berfformio wrth eu bodd, maen nhw wastad ishe dod yn ôl i Neuadd Dewi Sant achos mae'r acoustics mor dda.
"Ond hefyd mae'n dda ar gyfer y cyhoedd, y gynulleidfa. Ble bynnag 'da chi yn y neuadd 'da chi'n clywed a gweld yn dda. Ac felly mae hwn yn rhywbeth mae rhaid i ni byth colli.”
Ac mae nifer o staff y neuadd yn proffwydo trafferthion. Un sydd yn pryderu am y dyfodol yw Paul Jones:
“Mae ‘na lot o stress achos ‘da ni’n weld sut mae academys yn gweithio dros Brydain i gyd ac mae ‘na mwy o bwyslais ar y bars ac mae’n mynd i newid y ffordd ‘da ni’n gweithio. I fi mae peidio cael symphony hall yng Nghaerdydd, yn y brifddinas, mae’n rhywbeth cenedlaethol."
Bydd cyfnod o ymgynghori’n digwydd medd Cyngor Caerdydd, gyda phenderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.